Mynd i'r cynnwys

“Mrs Y”

Cafodd Y anawsterau gyda’i bywyd personol yn yr ysgol ond llwyddodd i ennill cymwysterau i gael lle ar gwrs gradd oddi cartref, ond oherwydd ei hamgylchiadau nid oedd Y yn gallu cwblhau’r cwrs hwn ac fe adawodd y cwrs yn gynnar.

Daeth Y i’r gwasanaeth ar ôl gadael ei chwrs gradd oherwydd dirywiad yn ei hiechyd meddwl yn ystod Covid, problemau iechyd parhaus ac oherwydd ei bod yn ddigartref oherwydd ei sefyllfa gartref. Cafodd Y ei hatgyfeirio gan wasanaeth Adferiad sy’n darparu cefnogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar yr un pryd.

Fe weithiom gyda’n gilydd i ddod i ddeall y cyfeiriad yr oedd Y am fynd iddo ond roedd yn ansicr ynglŷn â gwaith ac addysg.

Fe weithiom gyda’n gilydd i feithrin ei hyder a chofrestrodd Y ar nifer o gyrsiau byr gyda’r bwriad o ddechrau gyrfa mewn gwaith cefnogi gan ganolbwyntio ar waith ieuenctid / gofal.

Ar y dechrau roedd yn anodd ymgysylltu â Y.  Byddai’n cyrraedd y cyfarfodydd gyda staff cefnogi o’i chartref oherwydd lefel ei gorbryder.  Ar y pwynt hwn fe lwyddom i gwblhau sêr gwaith a chynllun gweithredu ond roedd Y yn dal i fod yn ansicr ynglŷn â beth yr hoffai ei wneud.

Fodd bynnag, ar ôl 3 wythnos rhoddais gefnogaeth i Y dros y ffôn i gyrraedd y cyfarfod ar ei phen ei hyn.  Pan gyrhaeddodd Y yr apwyntiad roedd yn siarad yn angerddol ynglŷn â sut yr hoffai wneud gwaith gofal ac ieuenctid.  Esboniodd Y bod gweithwyr proffesiynol wedi bod yn gweithio gyda hi ers blynyddoedd ac mae hi’n teimlo bod ganddi brofiad ymarferol a gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus yn y maes hwn.

Er bod Y yn gwybod pa faes y mae am weithio ynddo ac mae ganddi’r lefel addysg gofynnol i ddechrau cwrs llawn amser ar lefel uchel, mae’n teimlo nad yw’n ddigon clyfar a bod angen iddi ddychwelyd yn raddol i addysg a blasu cyrsiau byr er mwyn gwneud yn hollol siŵr mai dyma’r llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn, ei bod yn gallu deall y gwaith a hefyd meithrin hyder a chredu bod y gallu ganddi i lwyddo.

Cofrestrodd Y ar gwrs hyfforddiant cyflym am bythefnos ar-lein i gael cyflwyniad i ofal a llwyddodd i’w gwblhau.

Ar ôl hynny cyrhaeddodd Y ei hapwyntiad gyda mi yn llawn hyder a gyda rhestr o gyrsiau byr yr hoffai ymchwilio iddynt.  Ei nod hirdymor yw cael mynediad i gwrs coleg llawn amser mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Trafododd Y gyda mi sut mae bellach yn credu y gall hi gwblhau cwrs lefel uwch yn y dyfodol.

Mae dod o hyd i’r llwybr mwyaf addas i bob cyfranogwr yn hanfodol.

Trwy ddefnyddio “Work Start” a chael trafodaethau mae’r cyfranogwr yn nodi’r meysydd y mae angen gweithio arnynt.  Mae creu cynllun gwaith ar y cyd yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt i’w ‘siwrnai’ i gyrraedd eu nod.

Roedd angen cefnogi Y i ddychwelyd yn raddol i addysg er mwyn ei galluogi i gredu ynddi hi ei hun ei bod yn gallu.

Roedd gallu cynnig cwrs byr iddi fel rhan o’i chynllun gweithredu yn hanfodol i Y er mwyn gallu symud yn nes at ei nodau addysg a gyrfa yn y dyfodol. 

Ar hyn o bryd mae Y yn cwblhau cyrsiau byr i ddatblygu ei hyder ac mae’n mynd i wneud cais i fynd i Goleg Llandrillo pan fydd y cyfnod cofrestru yn ailddechrau ar gyfer ei chwrs dewisedig,