Mynd i'r cynnwys

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn Neuadd y Dref, Y Rhyl – Tachwedd 2021

Ddydd Llun 22 Tachwedd, cynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio Ffair Swyddi yn Neuadd y Dref, Y Rhyl.  Dyma oedd y digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus cyntaf i Sir Ddinbych yn Gweithio ei fynychu, yn ogystal â’i gynnal ers cyn pandemig Covid-19.

Roedd yna rywfaint o ansicrwydd ynglŷn â sut groeso y byddai’r digwyddiad yn ei gael gan y cyhoedd, a fyddai pobl yn gyfforddus yn rhyngweithio mewn digwyddiad cyhoeddus eto. Roedd yna fesurau Covid llym iawn yn eu lle trwy gydol y lleoliad, a dilynodd pawb y rheolau.

Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn a chafwyd adborth da. Roedd yn fuddiol i bobl gael gweld pa swyddi gwag oedd ar gael ac i gael sgwrs gyda’r cynrychiolwyr oedd yn bresennol, i gael rhyw ymdeimlad o’r hyn a ddisgwylir ganddynt, petaent yn cael gwaith.

Roedd amrywiaeth eang o gyflogwyr yn bresennol, gyda’u harddangosfeydd dros dro, taflenni gwybodaeth a’r nwyddau am ddim! Roedd yna ffocws penodol ar y sectorau gofal, lletygarwch a manwerthu, er roedd yna gynrychiolaeth o sectorau eraill hefyd. Ymysg y rhai oedd yn bresennol, roedd Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2 Sisters Food Group, McDonald, Gwasanaethau Cynnal Highbury, Premier Inn, Cyngor Sir Ddinbych a nifer o rai eraill. Roedd yr adborth gan gyflogwyr yn gadarnhaol iawn ac roedd yna lawer o ddiddordeb i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

Drwy sgyrsiau cyffredinol, dywedodd llawer o weithwyr proffesiynol eraill mai dyma oedd eu digwyddiad cyhoeddus cyntaf ers cyn y pandemig hefyd, felly mae pobl yn falch o ddychwelyd i fywyd fel yr arferai fod.

Yn sgil y digwyddiad, cafodd Sir Ddinbych yn Gweithio 5 atgyfeiriad newydd am gefnogaeth i’w helpu i oresgyn eu rhwystrau i sicrhau dyfodol gwell.

Fe hoffai dîm Sir Ddinbych yn Gweithio ddiolch i’r rheini ohonoch oedd naill ai yn y digwyddiad neu sydd wedi helpu i’w hyrwyddo.

Fe fyddwn ni’n cynnal Ffair Swyddi arall yn gynnar yn 2022, felly cadwch lygad am y dyddiad! Fe fydd hi’n wych eich gweld chi yno!