Mynd i'r cynnwys

Hyder Isel a Diswyddiad i Gymysterau a Chyflogaeth

Atgyfeiriodd J ei hun am gymorth ar ôl cael ei diswyddo o rôl dros dro. Ychydig o hyder oedd ganddi wrth wneud cais am swyddi ac nid oedd hi’n cyrraedd y rhestr fer.

Gyda chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio, roedd hi’n gallu gweithio tuag at gymhwyster TG a Gweinyddu a sicrhau cyflogaeth.

Pan atgyfeiriodd J at Sir Ddinbych yn Gweithio, roedd hi wedi bod yn ddi-waith am sawl mis ar ôl cael ei diswyddo o rôl dros dro.  Roedd J yn ei chael yn rhwydd nodi swyddi roedd hi am wneud cais amdanynt ac roedd hi’n teimlo bod ganddi CV da, ond ni allai ddeall pam nad oedd hi’n clywed yn ôl gan gyflogwyr. Pan gafodd y cyfnodau clo cenedlaethol eu gorfodi oherwydd Covid19, cafodd llawer o swyddi eu hysbysebu’n llai aml, felly nid oedd hi’n gwybod beth i’w wneud. Roedd gan J gymwysterau da, ond roeddent yn hen ac nid oedd rhai ohonynt yn cael eu cydnabod yn eang. Gyda’n gilydd, buom yn edrych ar ddiweddaru ei hyfforddiant a gweithio ar werthu ei hun i gyflogwyr posibl.

Pan atgyfeiriodd J, roedd hi’n gwybod eisoes pa sector roedd hi am weithio ynddo, felly buom yn edrych ar hyn ymhellach a nodi’r mathau o swyddi roedd hi wedi bod yn gwneud cais amdanynt.  Anogais J i ddefnyddio ein sesiynau clwb swyddi ar-lein, oherwydd roeddwn i’n ymwybodol ei bod hi’n gallu defnyddio cyfrifiaduron ac adnoddau ar-lein. Roedd y sesiynau ar-lein yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar agweddau fel ysgrifennu CV, addasu ceisiadau at rolau penodol a chyflwyniadau gan gyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant.

Gyda rhagor o alw am weithio gartref a staff gweinyddol yn ystod y pandemig, buan y daeth cyfle trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau. Awgrymwyd ein bod yn llenwi’r cais gyda’n gilydd, ond oherwydd bod J mor awyddus, roedd hi eisoes wedi’i anfon yn uniongyrchol at y cyflogwr.

Yn anffodus, ni chafodd J ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ar gyfer y rôl hon felly aethom yn ôl i chwilio.

Wrth i’r sesiynau cefnogi barhau, gwelsom gwrs ar-lein mewn Sgiliau Gweinyddol, ac roedd gan Julie ddiddordeb ynddo. Wrth i ni edrych i mewn i’r cwrs ymhellach, gwelsom fod cost y cwrs yn rhy ddrud, o ystyried ei gynnwys a’r diffyg achrediad, felly aethom yn ôl eto i chwilio am gyrsiau eraill. Gwelsom gymwysterau ECDL yn cael eu cynnig, ond oherwydd bod Covid19 yn effeithio ar golegau lleol, roedd hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth a chymerodd sawl mis i gael eglurhad o ran pa bryd fyddai’r cyrsiau’n rhedeg eto oherwydd bod y cyfyngiadau’n newid yn aml.

Yn ystod galwad ffôn i ddal i fyny gyda J, dywedodd ei bod wedi gwneud cais am dipyn o swyddi yn ddiweddar. Dywedais y byddai’n werth gadael i mi ei chefnogi hi gyda’i cheisiadau fel nad ydi hi’n methu allan ar gyfleoedd, yn enwedig gan nad oedd hi’n cael ymatebion o hyd. Ar ôl hyn, buom yn treulio amser yn gweithio ar ffyrdd o sicrhau ei bod hi’n sefyll allan wrth wneud cais am swyddi, gan ei hatgoffa unwaith eto am ein sesiynau ar-lein rhyngweithiol rhad ac am ddim.

Dywedais nad oes angen iddi ryngweithio os nad yw hi’n dymuno gwneud hynny, a gallai eistedd a gwylio’n dawel ar ei gliniadur a gwrando ar y wybodaeth a ddarperir.

Wrth barhau i ddilyn trywydd y cwrs ECDL gyda’r coleg lleol, llwyddais i gofrestru J o’r diwedd! Cafodd cais i’r Gronfa Rhwystrau ei gymeradwyo i dalu cost cymwysterau Lefel 1 a 2.

Digwydd bod, wythnos yn ddiweddarach, daeth swydd wag i fyny gyda’r Cynllun Dechrau Gwaith, ac roedd yn swnio’n berffaith ar gyfer J. Anfonais i’r swydd wag ati a chadarnhaodd y byddai’n hoffi gwneud cais amdani.  Gwnaethom lenwi’r ffurflen gais gyda’n gilydd dros y ffôn. Dechreuais trwy restru’r sgiliau roeddwn i’n gwybod oedd gan J, fel sgiliau cyfathrebu gwych, natur gwrtais a’i bod wrthi’n cwblhau cwrs ECDL gyda’r coleg er mwyn cynyddu ei sgiliau TG. Yna cwblhaodd J y manylion olaf gan siarad am ei phrofiad blaenorol a beth fyddai hyn yn ei gyfrannu i’r rôl.  Yn yr un wythnos, nodwyd J fel ymgeisydd addas, ac fe’i gwahoddwyd i sesiwn sgrinio gyda’r cydlynydd cyflogaeth. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o hyn, a dywedwyd wrth J y byddai’n cael cynnig cyfweliad gyda’r cyflogwr.

Dywedodd J y byddai angen dillad cyfweliad arni, felly cafodd ffurflen cronfa rwystrau ei llenwi a’i chymeradwyo am swm penodol. Roedd y cydlynydd cyflogaeth eisoes wedi rhannu cwestiynau a allai godi yn y cyfweliad gyda J, ond anfonais e-bost gydag awgrymiadau ac enghreifftiau o gwestiynau ac atebion arfer gorau, i’w hatgoffa. Y diwrnod nesaf, cafodd J wybod ei bod wedi cael y swydd!  Pan oedd ei dyddiad dechrau wedi’i gadarnhau, dywedais y byddai’n cael ei chyfeirio at Swyddog Lleoliad gyda’r Cynllun Dechrau Gwaith, a fyddai’n ei chefnogi trwy ei diwrnod cyntaf a’i lleoliad ac ati.

Yn anffodus, cysylltodd J gyda mi y diwrnod ar ôl ei dyddiad dechrau, a gofynnodd a allwn i barhau i weithio gyda hi oherwydd nad oedd y lleoliad wedi gweithio. Fe ffoniais hi’n syth a dywedodd fod cyfathrebu wedi bod yn wael gan y cyflogwr, ac oherwydd problemau o ran dyddiad dechrau swyddogol, roedd hi wedi penderfynu peidio â pharhau. Rhoddais sicrwydd y byddwn i’n parhau i’w chefnogi hi a gwnaethom gytuno ar gynllun gweithredu newydd.

Ar ôl sgwrsio gyda J, siaradais â’r Swyddog Lleoliad am y sefyllfa. Cefais stori ychydig yn wahanol, a dywedwyd nad oedd J wedi gallu bod yno ar ei diwrnod cyntaf fel a gynlluniwyd, a’i bod wedi gofyn am ddyddiad dechrau arall. Nid oedd y prif gyflogwr yno, felly roedd y person â gofal wedi dweud wrth J y byddai’n cadarnhau dyddiad dechrau newydd, a chysylltu’n ôl â hi wedyn. Ond gan na chlywodd J yn ôl erbyn diwedd y diwrnod hwnnw, yn ôl pob sôn, roedd hi wedi dweud wrth y Swyddog Lleoliad ei bod wedi newid ei meddwl. Roedd y Swyddog Lleoliad yn broffesiynol a pharchus am ei phenderfyniad, ond dywedodd wrthyf fi’n breifat ei bod yn teimlo ei bod wedi gor-ymateb o bosibl.

Gan weithio yn erbyn y cynllun gweithredu newydd, parhaodd J i wneud cais am swyddi gwag, a chafodd gyfweliad ar gyfer amryw swyddi eraill heb lwyddiant.  Wrth i’n hapwyntiadau barhau, gwnaethom gais am leoliad Dechrau Gwaith arall. Pan gafodd J wahoddiad am gyfweliad buom yn trafod cwestiynau a allai godi, ac fel dalodd yr holl waith caled ar ei ganfed, oherwydd y tro hwn, cynigiwyd y swydd iddi a chontract 30 awr yr wythnos.  Rwyf wedi cadw mewn cysylltiad gyda J er mwyn sicrhau ei bod hi’n hapus, ac mae hi’n dal i weithio yna hyd heddiw. Mae hi’n cael adborth gwych gan ei Swyddog Lleoliad dynodedig a’r Rheolwr, ac mae hi’n mwynhau’r rôl yn fawr.