Mynd i'r cynnwys

Prosiect Parod – Digwyddiadau ym Mis Mai

Ym mis Mai, trefnwyd tri digwyddiad sef; mynd i’r Sinema, taith gerdded dditectif ac ymweld â Sw Mynydd Cymru.

Cafodd y Sinema ei ddewis gan ei fod yn gyfle i gyfranogwyr gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd heb lawer o bwysau. Roedd amgylchedd y sinema yn caniatáu i gyfranogwyr siarad â phobl newydd, trafod diddordebau cyffredin a gwneud ffrindiau, heb y pwysau o orfod siarad am gyfnodau hir. Roedd cwrdd â phobl newydd yn y dull hwn yn lleihau teimladau o orbryder wrth gwrdd â phobl newydd ac yn annog y cyfranogwyr i fynychu mwy o ddigwyddiadau a sesiynau cwrs Argoed.

Dewiswyd y Daith Gerdded Dditectif gan ei fod yn weithgaredd hwyliog a oedd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr weithio ar sawl sgil bywyd megis; bod yn benderfynol, cadw amser, gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau. Bu’r gweithgaredd yn llwyddiant ac fe gyfathrebodd y cyfranogwyr yn dda gyda’i gilydd i ddatrys pob cliw ac fe lwyddont i ddatrys y cod! Magodd hyn hyder y cyfranogwyr a rhoddodd ymdeimlad o lwyddiant iddyn nhw. 

Dewiswyd y Sw gan fod nifer o gyfranogwyr wedi mynegi diddordeb mewn anifeiliaid, a rhai o bosibl yn ystyried gyrfaoedd yn ymwneud ag anifeiliaid hefyd. Nod yr ymweliad hwn yw meithrin hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan y byddwn yn defnyddio gwasanaethau trên a thacsi. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i gyfathrebu a chefnogi ei gilydd, a bydd staff yn annog cyfranogwyr i siarad ag aelodau o staff y sw, i’w galluogi i ystyried gwahanol ddewisiadau gyrfaol.