Mynd i'r cynnwys

“Mrs E”

a picture showing a person getting a book off a shelf

Ar ôl siarad gydag Ymgynghorydd yng Ngyrfa Cymru, atgyfeiriwyd E at y prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio i gael cyngor unigol gyda chyfleoedd cyflogaeth bellach a oedd yn cefnogi ei chynnydd gyda’i iechyd meddwl. Roedd E yn dioddef o iselder ac yn ei chael hi’n anodd codi allan o’i gwely ar rai dyddiau. Roedd wedi ceisio cymorth gan sefydliadau proffesiynol ond ni wnaeth barhau â hwy am ddigon hir i weld gwelliant. Fel ei Mentor Ieuenctid, roedd ei apwyntiadau cyntaf yn rhai hamddenol a phan roedd yn teimlo’n gyfforddus roeddem yn gallu dechrau targedu meysydd penodol a gweithio gyda’n gilydd i wella ei sgiliau. Roedd hyder E yn tyfu gyda phob sesiwn ac yn y diwedd cafodd swydd di-dâl ei hun yn y llyfrgell leol drwy’r Cynllun Work Start Sir Ddinbych Yn Gweithio.

Roedd gan E brofiad yn y maes lletygarwch ac roedd wedi mwynhau, ond ar ôl iddi adael mi wnaeth ei hiechyd meddwl waethygu. Yn flaenorol, roedd E wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ond ar ôl mynychu ychydig o sesiynau roedd yn teimlo nad oeddent yn ddefnyddiol iawn iddi a stopiodd fynychu. Ar ôl cael sgwrs gyda E am ei hiechyd meddwl, eglurodd ei bod wedi creu mecanweithiau ymdopi ar gyfer ei theimladau ar ben ei hun fel mynd am dro neu ddarllen lyfr sydd wedi ei helpu mewn cyfnodau isel ac yn gweithio iddi hyd yma. Siaradasom am ei chymhelliant i ddechrau gweithio a’i diddordebau, ond roedd E yn ei gweld yn anodd dod o hyd i unrhyw beth a oedd yn sefyll allan neu’n teimlo a fyddai’n gweddu yr hyn y gallai ei gynnig.

Yn ein cyfarfod cyntaf gyda’n gilydd roedd yn amlwg ei bod yn orbryderus a nerfus am y cyfarfod. Roedd yn teimlo’n llethol yn fy nghyfarfod am y tro cyntaf ac yn ansicr o beth i’w ddisgwyl. Ar ôl i ni eistedd i lawr a chyflwyno ein hunain i’n gilydd a dechrau siarad, dechreuodd ymlacio a theimlo’n gartrefol. Roedd E wedi’i symbylu i ddod o hyd i waith ond ar yr un pryd roedd ei gorbryder yn ei hatal rhag cyfleoedd gan ei bod yn teimlo nad oedd yn gallu bodloni’r safon disgwyliedig o’r hysbysebion swydd. Yn flaenorol roedd E wedi gweithio mewn caffi prysur ar lan y môr, roedd yn dweud ei fod yn waith caled ond roedd yn ei fwynhau, fodd bynnag roedd wedi teimlo nad oedd wedi cael cefnogaeth gan ei rheolwr. Cawsom drafodaeth mwy manwl a thrafod yr hyn yr hoffai ei wneud. Angerdd E oedd llyfrau a choffi, felly roeddem yn meddwl y byddai gyrfa yn un o’r ddau faes hyn yn  rhywbeth y byddai’n fwynhau’n fawr iawn. Un o’r pethau cyntaf y gwnaethom gyda’n gilydd oedd edrych ar ei CV. Eglurodd E nad oedd ganddi llawer o bethau i roi ar ei CV ac roedd yn poeni am ei wneud a’i wneud i sefyll allan. Mi wnaethom dreulio ychydig o sesiynau gyda’n gilydd yn diweddaru’r CV, a’i wneud i edrych yn broffesiynol a rhywbeth y byddai’n falch ohono. Roedd E wrth ei bodd gyda’r canlyniad ac wedi synnu ar faint o sgiliau yr oedd wedi’i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf! Roedd yn hwb i’w hyder yr oedd ei angen i gredu yn ei hun a’i hatgoffa bod ganddi’r galluoedd ar gyfer llawer o swyddi gwahanol.

Dechreuodd E edrych ar gyfleoedd yn y maes lletygarwch eto, yn bennaf o fewn lleoliad caffi gan mai dyma ble’r oedd yn teimlo fwyaf cyfforddus. Mi wnaethom gadw golwg ar swyddi mewn llyfrgelloedd neu siopau llyfrau, ond roedd hi’n anodd dod o hyd i rai fel hyn. Yn ogystal mi wnaethom edrych ar unrhyw hyfforddiant a fyddai’n helpu E ddatblygu’n agosach at waith a dod o hyd i gwrs Sgiliau Allweddol yn y Diwydiant Twristiaeth, ond ar ôl edrych ar hyn yn fwy manwl nid oedd E yn teimlo’n gyfforddus gyda chyrraedd yna gan bod y siwrneiau teithio yna’n anodd.

Mewn cyfnod byr iawn, roedd E wedi datblygu ers ein hapwyntiad cyntaf, roedd yn gwneud cais yn hyderus am swyddi a ddim yn digalonni os nad oedd yn symud ymlaen yn y broses ymgeisio. Yn anffodus, cafodd E argyfwng meddygol a oedd yn golygu bod rhaid iddi stopio’r prosiect am ychydig tra’r oedd yn cryfhau ac yn gofalu am ei hi ei hun. Ar ôl egwyl fer, cysylltodd E gyda mi eto ac roedd mewn lle gwell i barhau gyda’r gefnogaeth i mewn i waith. Roedd cyfle wedi codi drwy’r Cynllun Work Start yn y llyfrgell leol fel Cymhorthydd Llyfrgell. Roedd yn swydd di-dâl am 2 ddiwrnod yr wythnos, soniais wrth E ac roedd yn frwdfrydig iawn am y cyfle, roedd y ddwy ohonom yn credu y byddai’n gam da i mewn i waith ac i gynyddu ei phrofiad yn fwy. Roedd E yn wedi gwneud yn dda yn y broses ffurflen gais a chyfweliad ar gyfer y swydd hon, roedd ei brwdfrydedd am lyfrau a darllen yn golygu ei bod ar frig y ceisiadau a roedd yn llwyddiannus!

Dechreuodd E ei swydd yn y llyfrgell yn fuan wedyn, cafodd gefnogaeth gennyf i a chan y Swyddog Cefnogi Lleoliad Cynllun Work Start i sicrhau byddai’r lleoliad yn mynd rhagddo’n dda. Roedd y cyfle i ddechrau am 3 mis, a roedd E yn ei fwynhau’n arw ac yn gweithio ym mhob agwedd o’r llyfrgell. Roedd yn cael ei hyfforddi ar y system electronig, yn cynorthwyo cwsmeriaid a threfnu llyfrau ar y silffoedd. Roedd E yn cynyddu ei sgiliau a roedd yn benderfynol o ddod o hyd i swydd hirdymor o fewn llyfrgell gan ei bod yn ei fwynhau.

Yn anffodus, bu i Covid 19 ddod â lleoliad E i ben yn fuan gan fod rhaid i’r llyfrgell gau. Roedd wedi ei siomi am fethu parhau a chwblhau’r lleoliad, a gobeithio y byddai’n gallu parhau yn y dyfodol.

Ers gweithio gyda’r prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio, roedd gan E mwy o hyder yn ei hun ac roedd yn llawer mwy parod i roi cynnig ar bethau newydd, roedd yn cael trafferth gyda hyn yn flaenorol. Er bod ei lleoliad wedi gorfod dod i ben, mae’n parhau i fod yn frwdfrydig ac yn parhau i ymgeisio am swyddi a chyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â chymryd rhan yn ein sesiynau ar-lein, datblygu ei sgiliau Cymraeg ac yn gosod sialensiau ac amcanion iddi ei hun. Mae E wedi symud i gartref newydd ac wedi gael mynediad at wasanaethau eraill megis y Ganolfan i Ferched i’w helpu i reoli ei iechyd meddwl, ac yn ogystal mae wedi bod yn meddwl am lwybrau eraill megis cyrsiau coleg yn y misoedd nesaf. Mae E yn gwneud cynnydd dda ar y prosiect ac yn enghraifft gwych o sut y gall prosiectau fel hyn helpu unigolion i symud ymlaen.