Mynd i'r cynnwys

“H”

a picture showing a man shovelling dirt

Cyfeiriwyd H at Sir Ddinbych yn Gweithio gan y Ganolfan Byd Gwaith gan iddo arfer gael ei gyflogi fel labrwr. Roedd H yn cael trafferth mynd yn ôl i’r sector adeiladu gan fod ei gerdyn CSCS wedi dirwyn i ben ac fe’i cyfeiriwyd atom ni i ddod o hyd i waith cyflog iddo oedd yn defnyddio’i set sgiliau. Trwy gefnogaeth y prosiect, ymrestrwyd H ar hyfforddiant CPCS i wella’i sail sgiliau, ac mae bellach wedi dod o hyd i gyflogaeth amser llawn a gynigiwyd yn wreiddiol fel swydd dros dro, sy’n dangos ei etheg gwaith rhagorol a’i alluoedd i’w gyflogwr.

Cyfeiriwyd H gan y ganolfan waith gan iddo arfer gweithio fel labrwr ond roedd ei waith dros dro wedi dod i ben ac roedd ei gerdyn CSCS wedi dirwyn i ben, a olygodd ei fod yn methu mynd yn ôl i’r gwaith hwn. Nid oedd gan Odin yr arian i adnewyddu hwn yn llawn gan fod rhaid iddo hefyd gwblhau ei hyfforddiant Iechyd a Diogelwch er mwyn cael y cerdyn. Yn dilyn cyflwyniad i’r prosiect, ailadroddodd H ei awydd i fynd yn ôl i’r gwaith yr oedd yn ei wybod a dechrau gweithio unwaith eto. Rroedd hi’n amlwg bod hyn yn eithaf pwysig iddo.   

Yn ystod ein cyfarfod cyntaf, gwnaeth H yn glir ei ddymuniadau i ddechrau gweithio ar ôl iddo gael ei gyflogi’n labrwr cyn hynny. Roedd H yn methu parhau â’r math hwn o waith ar ôl i’w gerdyn CSCS ddirwyn i ben, ac roedd hyn bellach yn effeithio ar ei allu i sicrhau gwaith parhaol ar safle adeiladu. Roedd H yn mwynhau’r math hwn o waith yn fawr iawn ac wedi dod o hyd i rywbeth roedd yn hynod dda am ei wneud, felly gwnaethom weithio gyda’n gilydd i ddynodi cyfleoedd hyfforddiant lleol a fyddai’n ei alluogi i barhau yn y maes hwn. Daeth hi’n anodd nodi cyfleoedd llafurio er gwaetha’r ffaith fod H yn rhagweithiol, gan ofyn i’w gysylltiadau ac yn ymweld â safleoedd adeiladu. Penderfynon ni edrych ar lwybrau eraill megis gwaith coed neu asio ac roedd H yn agored iawn iddynt. Daeth cyfle ar gael i H ymrestru ar gwrs gwaith coed yn Woodland Skills a oedd yn lleol i’r ardal, a chafodd gyfle hefyd i gael cymhwyster achrededig mewn Hyfforddiant Lefel 3 Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng. Diolchodd H i mi am archwilio’r llwybr hwn, ond ar ôl edrych ymhellach, cytunwyd bod eisoes ganddo’r set sgiliau a fyddai’n cael ei chynnig yn Woodland Skills. Yna, gwnaethom gais iddo gwblhau ei hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gyda darparwr hyfforddiant lleol a rhoddon ni daleb bws iddo hefyd er mwyn iddo allu mynychu. Cysylltodd H â mi i roi gwybod iddo basio’i hyfforddiant ac ar ôl ystyried am ychydig, esboniodd yr hoffai ddysgu crefft arbenigol ond roedd wedi’i ddrysu’n fawr o ran pa faes adeiladu yr hoffai fynd i mewn iddo, felly gwnaethom dreulio amser gydag ef yn trafod y gwahanol ddewisiadau ac edrychon ni ar ba waith oedd ar gael yn yr ardal. Ar ôl cwpl o gyfarfodydd, dywedodd H wrthyf y credai y byddai o fantais cwblhau Tystysgrif Llwythwr Telesgopig a fyddai’n ei alluogi i weithredu darnau o offer yr oedd galw mawr amdanynt yn y diwydiant adeiladu. Ar ôl trafod gyda’m Rheolwr, gwnaed cais i’r Barrier Fund i H dalu am ei gerdyn CPCS, byddai hyn yn rhoi i H y fantais yr oedd arno ei angen i weithredu peiriannau arbenigol ar safleoedd. Gan nad oes gan H ei gerbyd ei hun, gwnaethom hefyd dalu am dacsi i’r hyfforddiant ac oddi yno gan fod y llwybr bws cryn bellter o’r maes hyfforddi. Unwaith eto, roedd H yn ddiolchgar iawn i ni am drefnu’r hyfforddiant a’r daith yn y tacsi, dymunais bob lwc iddo ac arhosais am y canlyniadau. Yn anffodus, methodd H asesiad ymarferol y prawf CPCS, darganfuwyd efallai y byddai cwblhau cwrs lefel is cyn cymryd yr hyfforddiant CPCS mwy cymhleth wedi helpu H i basio’r tro cyntaf. Serch hynny, cytunon ni i fynd ar drywydd hyn a gwneud cais i ailsefyll. Ar ôl ailsefyll, cysylltodd H â mi i ddweud iddo lwyddo yn ei brawf!
Ar ôl rhai wythnosau, cyrhaeddodd ei dystysgrif y swyddfa a threfnon ni apwyntiad lle’r edrychon ni gyda’n gilydd ar y cyfleoedd oedd ar gael. Ymddangosodd lleoliad gwaith gyda Travis Perkins ond nid oedd H i weld â diddordeb yn hwn. Gwnaethom barhau i lenwi ceisiadau am swyddi ac anfonais ato drwy e-bost unrhyw swyddi oedd ar gael a allai fod o ddiddordeb iddo. Dywedodd H wrthyf iddo gymryd lleoliad gwaith dros dro gyda chymdeithas tai Clwyd Alyn oedd yn canolbwyntio ar ochr cynnal a chadw pethau, ond dim ond am 4 wythnos oedd cyfnod hwn. Cynghorais H i ganolbwyntio a rhoi cymaint o ymdrech a gwaith caled i mewn i hyn ag yr oedd yn ei wneud gyda ni, a chytunais i gysylltu ag ef mewn ychydig wythnosau i weld sut yr oedd wedi dod yn ei flaen. Roedd mis wedi mynd heibio lle’r oeddwn wedi cael trafferth cysylltu â H, ond cysylltodd â mi’n fuan wedyn gan ddweud wrthyf fod ei gontract wedi’i ymestyn a’i fod bellach wedi cael cynnig swydd barhaol gyda Chlwyd Alyn a diolchodd yn fawr iawn i mi am y gefnogaeth a ddarparwyd iddo a theimlai’n ddigon cysurus i adael y prosiect.

Mae profiad H gyda’r prosiect yn dangos y gwaith caled y mae ein cyfranogwyr yn ei wneud i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Ar ôl i H fethu ei brawf, safodd ei benderfyniad i lwyddo a’i waith caled allan a’i helpu i sicrhau cyflogaeth barhaol ar ôl cael ei recriwtio’n wreiddiol am swydd 4 wythnos o hyd. Heb ymyrraeth C4W+, mae’n bosibl na fyddai H wedi gallu cwblhau’r cwrs arbenigol a roddodd hwb i’w hyder yn y diwydiant cyflogaeth.