Mynd i'r cynnwys

Cyfranogwr ‘Sir Ddinbych yn Gweithio’ Wedi Llwyddo i Gael ei Swydd Ddelfrydol Mewn Gofal!

“Mae angen hyder yn eich hun i wireddu eich breuddwydion a’ch nodau, peidiwch byth â bod ofn gofyn am help ar hyd y ffordd”, meddai Sophie, 23 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych.

Cyfeiriwyd Sophie at Sir Ddinbych yn Gweithio i gael cefnogaeth gyda chyflogadwyedd. Roedd Sophie wedi bod allan o waith am dipyn. Roedd ganddi waith blaenorol yn glanhau ond roedd hi eisiau gweithio tuag at yrfa mewn gofal, naill ai mewn meithrinfa neu fel gweithiwr cefnogi gofal ac yn y pen draw, ei nod yw gweithio i’r GIG un diwrnod.

Datblygwyd cynllun gweithredu wedi’i deilwra gyda Sophie, roedd hyn yn cynnwys llunio ei CV, edrych ar gyrsiau hyfforddi addas a dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli neu leoliad gwaith addas lle gallai gynyddu ei sgiliau. Aeth Sophie i bob apwyntiad cefnogaeth 1-1 a oedd ganddi yn ei llyfrgell leol, roedd bob amser yn brydlon ac yn awyddus i ddatblygu.

Sefydlwyd cyrsiau hyfforddi perthnasol i Sophie fynd iddynt a thrafodwyd cyfleoedd gyda hi ar bob cyfle. Dewisodd Sophie wirfoddoli mewn grŵp rhiant a babi lleol. Aeth Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu Sophie, ‘J’, gyda hi i’w chyflwyno i staff ac i wneud yn siŵr mai dyma oedd y cyfle iawn iddi hi. Roedd Sophie wrth ei bodd ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli bob wythnos am bron i flwyddyn.

Fe wnaeth Sophie barhau i fynd i apwyntiadau 1-1 lle cafodd gymorth i ymgeisio am swyddi addas a chael cefnogaeth i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Ymgeisiodd Sophie am sawl swydd heb lwyddiant, ond ni roddodd y ffidil yn y to. Nodwyd bod Sophie angen rhagor o gefnogaeth gyda hyder a hunan-gred, yn enwedig mewn cyfweliadau, felly gwnaed atgyfeiriadau i’n Hymarferydd Iechyd Meddwl BIPBC Sir Ddinbych yn Gweithio am gefnogaeth ychwanegol.

Cafodd Sophie wybod am raglen lleoliad gwaith BIPBC. Roedd hwn yn gyfle perffaith i Sophie ac roedd yn awyddus i ddechrau. Cafodd Sophie gefnogaeth drwy’r broses gyfweld a chafodd gynnig lleoliad gwaith. Cwblhaodd Sophie gyrsiau e-ddysgu ar-lein BIPBC fel rhan o’r cyfnod sefydlu a roddodd fwy o sgiliau iddi. Dechreuodd Sophie ei lleoliad 6 wythnos o Chwefror i Fawrth 2020 yn Ysbyty Glan Clwyd.

‘Rydw i mor ddiolchgar am yr help gan Sir Ddinbych yn Gweithio. Mae ‘J’ wedi fy helpu’n fawr, wnaeth hi ddim rhoi’r ffidil yn y to gyda mi er fy mod i eisiau gwneud hynny weithiau. Fe wnaeth ‘J’ sicrhau bod gen i bopeth yr oeddwn ei angen, fel ennill y cymwysterau cywir, fy helpu i fynd i wirfoddoli ac ar leoliad gwaith a sicrhau fy mod â’r wybodaeth gywir. Ni fyddai gennyf hanner y cymwysterau na’r hyder heddiw oni bai amdani hi neu gymorth Sir Ddinbych yn Gweithio. Ar y dechrau roeddwn yn amheus am yr holl syniad o gael fy nghyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio oherwydd nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o’r blaen. Byddwn i’n bendant yn argymell eu cefnogaeth i bobl eraill gan eu bod yn gweithio’n galed ac yn gwneud cynlluniau sy’n addas i chi fel y gallwch gyflawni eich nodau’

Gweithiodd dair shifft yr wythnos, i gynnwys shifftiau nos a gyda’r hwyr. Ar ddiwedd ei lleoliad, cafodd Sophie wybod y byddai angen iddi wneud rhagor o brofiad gwaith mewn ysbyty cymunedol cyn y byddai’n cael ei hystyried i fod yn staff banc y GIG. Roedd hyn yn siom i Sophie gan ei bod wedi gweithio mor galed, ond eto, ni roddodd y ffidil yn y to! Yna, cawsom gyfyngiadau symud oherwydd Covid-19 ym Mawrth 2020. Fe wnaeth ei Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu barhau i fod mewn cysylltiad â hi i roi gwybod iddi am swyddi gwag gofal addas, ond hefyd i roi gwybod iddi am y risg o fod yn weithiwr allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Sophie’n dal yn awyddus i gael swydd â thâl mewn rôl ofalu. Cododd gyfle gyda CSDd mewn lleoliad cartref gofal preswyl. Anfonwyd y cyfle hwn ymlaen at Sophie a oedd yn awyddus i gael mwy o fanylion. Cafodd Sophie gefnogaeth i ymgeisio am y swydd a chafodd help i baratoi ar gyfer y cyfweliad drwy fideoalwad WhatsApp.

Roedd Sophie’n llwyddiannus yn ei chyfweliad ac mae’n dechrau ei swydd fel gweithiwr
cefnogi gofal mewn cartref preswyl yn Ninbych mewn ychydig o wythnosau! Mae hwn yn gam mawr i Sophie ac yn gyflawniad mawr ar ôl gweithio mor galed i gyrraedd lle mae hi eisiau bod.

Dywedodd ‘J’, ei swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu: ‘Mae wedi bod yn bleser
cefnogi Sophie, roeddwn wrth fy modd pan glywais y newyddion ei bod wedi bod yn
llwyddiannus. Mae wedi bod yn anodd gweithio gartref ond mae’n wych meddwl y gallwn roi cefnogaeth o hyd, sy’n galluogi cyfranogwr i gyflawni ei nodau, i gyd oddi wrth fy mwrdd bwyd!