Mynd i'r cynnwys

“Seimon”

Daeth Seimon o hyd i swydd gyda chymorth Cymunedau dros Waith a Mwy wedi iddo fynd yn ddigartref a cholli ei waith oherwydd y pandemig Covid-19.

Mae gan Seimon ddyfodol disgleiriach o’i flaen.  Atgyfeiriwyd Seimon at Sir Ddinbych yn Gweithio gan Dîm Digartrefedd Sir Ddinbych ym mis Hydref 2021.  Bu’n gweithio dramor a chafodd yrfa lewyrchus cyn iddo orfod dychwelyd adref ym mis Awst 2020 wrth i’w waith ddiflannu oherwydd y pandemig.  Aeth i fyw gyda pherthnasau iddo am gyfnod, ond roedd hynny’n anodd oherwydd eu hanawsterau iechyd ac ymhen hir a hwyr roedd yn byw mewn pabell heb swydd, heb gartref a heb fawr o ddim eiddo.  Roedd yn rhaid iddo gael gwared â’i gar, hyd yn oed.  

Unwaith y derbyniodd ein mentor yr atgyfeiriad fe ffoniodd hi Seimon i lenwi’r ffurflenni cofrestru. Roedd yn byw mewn llety i’r digartref ar y pryd. Ac yntau wedi gweithio ymhob cwr o’r byd, roedd bod allan o waith a dibynnu ar ‘y system’ yn brofiad brawychus iawn i Seimon.  

Roedd CV Seimon yn benodol iawn i’w yrfa flaenorol, ac felly aethom ati i ddechrau drwy addasu’r wybodaeth yn ôl y cyfleoedd hynny oedd ar gael yn lleol ac yn cyfateb â’i sgiliau.

Bu’r mentor yn ffonio Seimon bob wythnos i weld sut hwyl roedd yn ei gael arni, ac i drafod swyddi oedd newydd ddod yn wag.  Roedd Seimon yn flaengar iawn wrth chwilio am waith a byddai’n treulio oriau’n pori’r rhyngrwyd; roedd hefyd wedi cofrestru ag asiantaethau tempio.  

Cyn hir roedd modd i Seimon symud o’i lety dros dro a chael ei fflat ei hun.  

Ym mis Chwefror 2021, wedi iddo ymgeisio am nifer o swyddi a chael ambell i siom, ffoniodd Seimon ei fentor i ddweud ei fod wedi cael cyfweliad am swydd yr oedd yn eithaf cynhyrfus amdani. Cawsant sgwrs am y swydd, a chytuno ei bod yn ddelfrydol iddo gan fod llawer o’u sgiliau’n trosglwyddo. Meddai Seimon ‘Allwn i byth fod wedi cyrraedd y fan hon hebddot ti, Jen, felly diolch o galon – dwi’n teimlo’n eitha’ gobeithiol.’ Roedd Jen yn falch iawn drosto gan fod y swydd yn dod â char cwmni, ffôn a llechen, a byddai’n newid byd i Seimon.

Ffoniodd Seimon yn ddiweddarach i rannu’r newyddion bendigedig ei fod wedi cael y swydd. ‘Diolch am dy holl help, Jen, allwn i ddim fod wedi’i wneud o hebddot ti, dwi wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd ac mae’r gwaith yn dod yn rhwydd imi.

Er y gallai Seimon chwilio am gyfleoedd ac ymgeisio am swyddi ar ei ben ei hun, roedd y gefnogaeth ychwanegol dros y ffôn yn rhoi’r gallu iddo ddal ati.  Roedd yn gyfnod anodd iawn i Seimon ond diolch i gefnogaeth y Tîm Digartrefedd a Sir Ddinbych yn Gweithio, llwyddodd i drawsnewid ei fywyd mewn byr o dro.

Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig darparwyd yr holl gymorth dros y ffôn, drwy alwadau fideo ar-lein neu drwy e-bost.  

I gael rhagor o wybodaeth

Jen Dutton, Mentor Cyflogaeth Gymunedol (Cymunedau dros Waith a Mwy)

Jen.dutton@denbighshire.gov.uk