Mae Mr AP yn 28 oed ac wedi bod yn byw yng ngogledd Cymru ers 6 blynedd. Roedd ei swydd ddiwethaf 10 mlynedd yn ôl, mewn canolfan arddio yn Wolverhampton. Dywedodd Mr AP fod ganddo broblemau gorbryder cymdeithasol a diffyg hyder, ac felly ei fod yn fodlon gwirfoddoli i fagu hyder ac i ennill sgiliau rhyngbersonol.
Pan oedd yn byw yng ngorllewin canolbarth Lloegr cwblhaodd gwrs garddwriaeth lefel 1 a 2 a phan oedd yn y coleg yn Wolverhampton derbyniodd brofiad gwaith mewn canolfan arddio ac ar gwrs golff fel ceidwad y grîn. Mae Mr AP wrth ei fodd yn trwsio a chynnal a chadw peiriannau torri gwair petrol, ac yn hoffi treulio’i amser hamdden yn ei sied yn gwneud hynny. Mae ganddo hefyd sianel YouTube yn dangos sut i drwsio a chynnal a chadw peiriannau torri gwair. Mae gan y sianel dros 320 o ddilynwyr.
Pan ddaeth Tom yn fentor ar Mr AP, roedd Mr AP yn agored iawn am ei orbryder ac am y ffaith nad oedd wedi gweithio ers 10 mlynedd. Gwrandawodd Tom ar Mr AP ac un o’i geisiadau oedd cwblhau cwrs Brushcutter / strimiwr er mwyn iddo allu meddwl am weithio fel garddwr neu debyg. Cafodd Mr AP le ar gwrs Defnyddio Brushcutter / Strimiwr yn Ddiogel (City & Guilds) yng Ngholeg Llysfasi. Talodd brosiect Cymunedau am Waith a Mwy am dacsi i’w gludo i’r coleg ar gyfer y cwrs (dydi Mr AP ddim yr gyrru). Llwyddodd i gwblhau’r cwrs yn llywddiannus.
Roedd wythnos gyntaf y lleoliad gwaith yn anodd iawn iddo gan fod addasu i fyd gwaith yn galed. Ond roedd Lyon’s (a Lorraine) yn dda iawn efo fo gan adael iddo weithio tridiau’r wythnos, bob yn ail ddiwrnod, o 9am tan 1pm. Roedd Mr AP yn gallu gwneud hynny a bu i’r profiad wella ei hyder a’i les. Cwblhaodd Mr AP 4 wythnos o brofiad gwaith a chytunodd i wneud ychydig o wythnosau ychwanegol. Ar 15 Mehefin rhoddodd Hannah o Work Start wybod i Tom fod Lyon’s wedi cytuno i gyflogi Mr AP yn barhaol am 24 awr yr wythnos – ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.
Felly, o fewn ychydig fisoedd roedd Mr AP wedi mynd o ddegawd o beidio â gweithio i dderbyn swydd barhaol mewn parc gwyliau, sy’n lleoliad hyfryd nid nepell o’i gartref. Mae o’n gweithio ochr yn ochr â goruchwyliwr o’r enw Craig, sy’n cynnig mynd i’r nôl o yn y bore. A gan ei bod yn swydd tridiau’r wythnos, mae Mr AP yn gallu ymdopi â hi.
Da iawn Mr AP!!