Crynodeb
Mae J wedi mynd o fod yn rhywun oedd yn cael trafferth siarad ar y ffôn ac yn teimlo nad oedd yn barod ar gyfer gweithio, i fod yn rhywun sy’n hapus i sgwrsio ar y ffôn am gyfnodau hir, ac sydd wedi ymgeisio am nifer o swyddi a chael cyfweliadau.
Cefndir / Beth yw…?
Atgyfeiriwyd J at Cymunedau am Waith i gael help i ddod o hyd i waith yn y dyfodol, ond roedd yn amau a oedd yn barod bryd hynny i ddechrau gwaith ar unwaith. Mae J wedi gwirfoddoli yn y gorffennol ond byth wedi cael gwaith cyflogedig. Mae J yn economaidd anweithgar oherwydd ei iechyd meddwl.
Yr ymgysylltiad…
Ar y dechrau canolbwyntiwyd ar ymchwilio i’r dewisiadau gyda J a meithrin ei hyder. Credai y byddai’n hoff o geisio am waith ym maes TG, ond ni wyddai’n union pa fath o swydd yr hoffai anelu ati. Gweithiom gyda’n gilydd wrth ystyried y gwahanol ddewisiadau ac ymchwilio i’r gofynion ar gyfer amrywiaeth o swyddi. Buom hefyd yn trafod y posibilrwydd o wirfoddoli neu gael lleoliad gwaith er mwyn rhoi mwy o hyder a phrofiad iddo. Roedd J yn awyddus i anelu at waith yn hytrach nag addysg, ac felly penderfynodd yr hoffai gael swydd gweinyddu.
Wedi ymchwilio i’r holl ddewisiadau a derbyn cymorth yn ôl ei bwysau, teimlai J yn barod i ymgeisio am swyddi â thâl. Cefnogais J i ysgrifennu llythyr eglurhaol a chefais olwg ar ei C.V. Cafodd ei wahodd am gyfweliad ond yn anffodus ni chafodd y swydd. Yna fe geisiodd J am swydd arall ym maes gweinyddu, heb unrhyw gefnogaeth, a chafodd ei wahodd am gyfweliad. Fe gefnogais J i baratoi ar gyfer y cyfweliad dros y ffôn, ac er na chynigiwyd y swydd iddo yn y pen draw, fe greodd argraff dda yn y cyfweliad ac fe gafodd gynnig gwaith gwirfoddol. Mae J wrthi’n pwyso a mesur y cynnig hwn ac yntau’n mynd i gael cyfweliad arall am swydd prentis yn yr wythnos sydd i ddod. Mae J wedi magu hyder ac mae’n teimlo’n barod i ddechrau ym myd gwaith. Ar y dechrau roedd yn cael trafferth siarad ar y ffôn ond mae wedi magu hyder gyda hyn hefyd, o ganlyniad i gefnogaeth gyson dros y ffôn gan Cymunedau am Waith.
Arferion Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau
Mae J yn teimlo’n barod erbyn hyn ac wedi magu hyder.