Mynd i'r cynnwys

‘C’

Mae nhw’n dweud mai ci ydy cyfaill pennaf dyn, ac mae hynny’n bendant yn wir yn achos C. Jones.

Mae hi’n 18 oed ac wrth ei bodd ag anifeiliaid, ac mae wedi trawsnewid ei bywyd diolch i gyfaill arbennig iawn a chymorth gan Sir Ddinbych Yn Gweithio.

Daeth C, o’r Rhyl, at Sir Ddinbych Yn Gweithio 18 mis yn ôl. Am y pum mlynedd diwethaf roedd C wedi bod yn byw gyda gorbryder oedd yn ei gwneud yn anodd iddi fyw ei bywyd fel roedd hi’n dymuno. Yn ofnadwy o swil, mae C yn awtistig ac mae ganddi epilepsi hefyd.

Roedd mynychu’r coleg yn ormod i C ac fe adawodd gwrs teithio a thwristiaeth o ganlyniad i hynny. Ond mae ei chariad tuag anifeiliaid yn golygu fod C, sydd bellach yn cael ei mentora gan S.H-J yn  Sir Ddinbych Yn Gweithio, wedi cychwyn ar lwybr gwahanol.

Un o’r pethau cyntaf wnaeth Sir Ddinbych Yn Gweithio i helpu C gyda’i gorbryder oedd cyllido cwrs er mwyn ei helpu i ymdopi gyda rhyngweithio cymdeithasol gyda thasgau bach bob wythnos i fagu ei hyder.

Drwy dreulio amser gyda C, sylweddolodd Siobhan ei bod yn caru anifeiliaid a’i bod wedi mabwysiadu ci o loches, sef Daeargi Bedlington o’r enw Bruce. Daeth Bruce, sydd yn dair oed, o’r ‘Pet Rescue Welfare Association’ yn Nyserth. Cafodd S y syniad o gael lleoliad gwaith i C yn y ganolfan achub.

Drwy edrych ar ôl y cŵn yno ac ar ôl edrych ar ôl Bruce, sylweddolodd C yr hoffai ystyried gwneud gwaith trin a phrydferthu cŵn.

Daeth S o hyd i gwrs cynorthwyydd trin a phrydferthu cŵn yng Ngholeg Llysfasi ar gyfer C. Roedd y ffaith mai cwrs rhan amser oedd yn golygu y byddai’n haws i C, ac fel dalodd Sir Ddinbych Yn Gweithio iddi fynychu.

Mae C bron a gorffen y cwrs a phan fydd yn dod i ben ym mis Mai bydd yn gadael gyda chymhwyster. Fe wnaeth Sir Ddinbych Yn Gweithio hefyd dalu am yr offer trin cŵn yr oedd arni eu hangen ar gyfer y cwrs, fel sisyrnau ac ati.

Mae C hefyd wedi cael yr hyder i wneud cais am swyddi. Fe wnaeth Sir Ddinbych Yn Gweithio ei helpu i ddatblygu ei CV ac yn fuan bydd yn ymuno â thîm parc dŵr newydd SC2 yn Y Rhyl, gan helpu gyda dyletswyddau yn y caffi yn ystod cyfnodau prysur. <0}Yn y cyfamser, mae Sir Ddinbych Yn Gweithio yn parhau i’w chefnogi wrth iddi chwilio am waith trin a phrydferthu cŵn neu ystyried cwrs coleg pellach.