Mynd i'r cynnwys

‘B’

Cafodd B ei atgyfeirio at ein gwasanaeth drwy CAMHS, yn chwilio am gefnogaeth i ddod o hyd i waith ac adeiladu ar ei hyder. Nid oedd gan B lawer o hyder, nid oedd erioed wedi gweithio ac wedi bod allan o’r coleg am fwy na blwyddyn. Ymgysylltodd B yn dda gyda mi ac oherwydd dyfalbarhad, yn enwedig gan B, cafodd swydd dros y Nadolig yn Tesco, gan fwynhau’r gwaith yn fawr a chael yr her o ddysgu rhywbeth newydd.

Cafodd B ei atgyfeirio atom gan CAMHS oherwydd ymgysylltiad ei chwaer â nhw, a’i fam yn dweud ei fod yn cael trafferth cael cymhelliant i ddod o hyd i waith. Gadawodd B y coleg gyda chymhwyster lefel 3 mewn gwasanaethau cyhoeddus, fodd bynnag, ers gadael y coleg ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae wedi ymgeisio am swyddi ond cafodd ei lethu gan bryder pan gafodd gynnig cyfweliad. Roedd ei deulu bob tro’n gefnogol ac yn ceisio ei helpu i ddod o hyd i waith, ond heb lwyddiant.

Daeth B i’n cyfarfod cyntaf gyda’i fam, nid oeddent yn sicr am beth y gallai’r prosiect ei gynnig, ond unwaith yr eglurais sut y gallem helpu, roeddent yn frwdfrydig. Roedd B wedi cwblhau C.V. yn flaenorol, ond nid oedd wedi’i ddiweddaru, felly yn ystod y sesiynau cyntaf, fe wnaethom dreulio amser yn diweddaru ei C.V. a thrafod beth yr hoffai ei wneud. Nid oedd B yn sicr, ond roedd yn well ganddo’r syniad o weithio yn y maes manwerthu, ond hefyd yn agored i gyfleoedd prentisiaethau. Unwaith y diweddarwyd ei C.V., fe wnaethom ddechrau canolbwyntio ar ymgeisio am swyddi.

Fe wnaethom edrych ar rôl TGCh yn y Cynllun Dechrau Gwaith, ond oherwydd ei leoliad ac anawsterau cael mynediad at gludiant cyhoeddus, nid oedd B yn gallu mynd am hwn. Yna fe wnaethom edrych ar gyfleoedd gyda Heddlu Gogledd Cymru gan ei fod yn cyd-fynd â’i wybodaeth o’i gymhwyster Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ateb y meini prawf hanfodol. Fe wnaethom dreulio amser yn ymgeisio am swyddi’r Cwnstabliaid Arbennig, yn ogystal â phrentisiaeth gyda’r tîm gweinyddol, ond yn anffodus, nid oedd yn llwyddiannus gyda’r swyddi.

Fe wnaethom barhau i ymgeisio am swyddi yn ystod ein cyfarfodydd ac anogwyd B i barhau i ymgeisio gartref. Roedd yn rhagweithiol iawn wrth geisio diogelu gwaith, ond roedd yn anodd cael hyd i gyfleoedd oedd ar gael yn yr ardal leol a oedd yn addas at ei sgiliau a’i ddiffyg profiad. Roedd B yn sylweddoli faint o amser sy’n cael ei dreulio ar ffurflen gais ac roedd yn dechrau teimlo’n rhwystredig. Fe wnaethom dreulio dros 2 fis yn cyfarfod bob wythnos, yn ymgeisio am bopeth a oedd ar gael, ac yn y diwedd fe welwyd cyfle gyda Tesco, fel cynorthwy-ydd cwsmeriaid dros y Nadolig. Cafodd B ei wahodd i gyfweliad, a datgelodd ei fod wedi cael gwahoddiad i gyfweliad yn Sainsbury’s y flwyddyn flaenorol, ond oherwydd materion hyder a phryder, nid oedd wedi mynd. Ar ôl llawer o waith paratoi ac anogaeth, teimlai’n hyderus y gallai fynd i’r cyfweliad ac y byddai’n gwneud yn dda.

Roedd yr adborth o’i gyfweliad Tesco yn wych, aeth i mewn yn hyderus a gofynnodd lawer o gwestiynau, gan ddarganfod ei fod wedi cael y swydd. Roedd B wrth ei fodd ac wedi cyffroi, ond yn ddealladwy, roedd yn nerfus. Ar ôl siarad gyda’i fam, nid oedd hi wedi sylweddoli pa mor anodd oedd ymgeisio a chael gwaith i rywun ifanc. Roedd yn falch iawn o B ac yn hapus iawn gyda’r gefnogaeth a gafodd i’w helpu i gyrraedd y pwynt yma.