Mynd i'r cynnwys

‘Anna’

Daeth Anna i’r gwasanaeth yn frwdfrydig i fynd allan i weithio ac roedd wedi bod yn ymgeisio am swyddi gydag anifeiliaid.   Fodd bynnag, ar ôl yr ychydig gyfarfodydd cyntaf roedd yn amlwg bod yna nifer o rwystrau ac nid oedd Anna yn barod i fynd allan i weithio.   Deg mis yn ddiweddarach, mae Anna nawr yn gwirfoddoli gyda’r Ganolfan i Fenywod, RSPCA ac mae wedi sicrhau lleoliad Derbynnydd dan Hyfforddiant di-dâl Cynllun Dechrau Gweithio.

Cafodd Anna ei hatgyfeirio i’n prosiect drwy’r ganolfan waith, roedd ar y grŵp gwaith ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.  Roedd Anna yn dioddef gyda gorbryder, iselder ac anhwylder personoliaeth ffiniol. Yn ystod y cyfarfod cyntaf roedd Anna yn pwysleisio nad oedd yn teimlo y byddai hyn yn ei hatal rhag mynd allan i weithio.   Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan iawn bod yna fwy o rwystrau nad oedd Anna wedi sôn amdanynt.  Wrth fynd drwy’r gwaith papur cychwynnol, ar y cwestiwn ariannol datgelodd Anna fod ganddi lawer o ddyled drwy gardiau credyd a’u bod yn cysylltu â hi am arian.   Wrth weithio drwy’r rhwystrau hyn mae Anna bellach yn gwneud gwaith gwirfoddol ac mae’n mwynhau’n fawr. 

Cysylltodd Anna â’r gwasanaeth fel unigolyn rhagweithiol iawn yn ceisio dod o hyd i waith.   Fodd bynnag, yn fuan iawn, dywedodd Anna mai’r rheswm ei bod yn dymuno dod o hyd i waith yn fuan oedd oherwydd ei bod mewn miloedd o bunnoedd o ddyledion.   Roedd wedi arfer defnyddio cardiau credyd a chardiau siopau i brynu eitemau ac roedd wedi cyrraedd y pwynt lle nad oedd yn gallu talu dim ohono yn ôl ac roeddent wedi dechrau mynd ar ei hôl am arian.  Roedd y sefyllfa wedi cynyddu pryder Anna ac nid oedd yn dymuno mynd allan, roedd yn rhy bryderus i fynd i’r siop ac yn ei chael hi’n anodd gwybod sut i symud ymlaen.  Roedd Anna yn credu os byddai’n dod o hyd i waith y byddai’n datrys popeth.  Ond ar ôl i ni drafod popeth, roedd yn amlwg bod gorbryder Anna yn ddifrifol iawn ac roedd yn ei chael hi’n anodd iawn ymdopi gyda’i hiechyd meddwl.   Mae’n bosibl na fyddai mynd allan i weithio’n syth yn rhoi’r gefnogaeth yr oedd ei angen nawr. 

Unwaith yr oedd Anna wedi egluro ei hanawsterau ariannol, aethom at Cyngor Ar Bopeth a gofyn iddynt beth fyddem yn gallu ei wneud i helpu Anna.  Roeddent wedi cofnodi’r holl fanylion am ei dyledion ac roedd yn gyfanswm o £7000.  Roedd hyn yn golygu y gallai Anna o bosibl ymgeisio am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled.   Roedd Cyngor Ar Bopeth wedi trefnu apwyntiad iddi ac wedi gweithio allan ar ôl biliau fod ganddi lai na £50 pob mis sy’n golygu ei bod yn gallu ymgeisio am Orchymyn Rhyddhau o Ddyled.   Roedd hyn yn cyfuno’i holl ddyledion a bydd wedi’i ddatrys o fewn blwyddyn. Roedd hwn yn benderfyniad mawr i Anna ac aeth CAB drwy holl fanteision ac anfanteision Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled ac roedd Anna yn teimlo mai dyna fyddai ei dewis gorau.   Roedd hyn yn golygu na fyddai incwm Anna yn gallu newid yn sylweddol am 12 mis neu byddai’n annilysu ei Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled a byddai’n derbyn ei dyledion yn ôl.

Roedd y cam cyntaf hwn i helpu Anna gyda’i dyledion yn tynnu pwysau oddi ar ei hysgwyddau.   Fodd bynnag, roedd Anna yn parhau i ddioddef gyda’i hiechyd meddwl ac ar un pwynt roedd yn teimlo’n isel iawn.   Roeddem wedi ceisio cysylltu gyda Hafod, roedd wedi gofyn i’w mam gysylltu â nhw iddi ond roedd yn gwrthod. Roedd ei bywyd gartref yn rhan fawr o sut yr oedd yn teimlo’n feddyliol ac nid oedd yn derbyn cefnogaeth gartref.   Gwnaethom gysylltu gyda nhw yn un o’n cyfarfodydd ond pan aeth Anna i’w gweld roeddent wedi dweud nad oedd yn ddigon difrifol i weithio gyda nhw ac i gysylltu â’r Ganolfan i Fenywod am gefnogaeth yno.   Roedd hyn yn ergyd i Anna gan ei bod yn teimlo nad oeddent wedi gwrando arni ac yn gwneud iddi deimlo nad oedd yn ddigon pwysig.   Ond gwnaethom ddilyn eu cyngor a chysylltu â’r Ganolfan i Fenywod. 

Mynychodd Anna ei chyfarfod cyntaf gyda’r Ganolfan i Fenywod a threfnodd i ddychwelyd eto i’w gweld.   Roedd yn teimlo ei bod yn hawdd siarad gyda nhw ac roeddent wedi awgrymu ceisio ei chael ar eu cwrs cwnsela a gynhelir ganddynt.  Roedd Anna yn hapus i weithio gyda nhw i’w helpu gyda’i gorbryder a gobeithio helpu i ddatblygu ei hyder.   O fewn wythnos gyntaf, roedd Anna wedi mynd i siop manwerthu ar ei phen ei hun, roedd hwn yn gam mawr i Anna gan y byddai ei gorbryder wedi cymryd drosodd o’r blaen ac ni fyddai wedi bod yn bosibl iddi wneud hyn.

Drwy weithio gyda’r Ganolfan i Fenywod, roedd Anna wedi ennill hyder i ddechrau gwirfoddoli ar ddesg y dderbynfa.   Ar yr un pryd roedd ei Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled ar y gweill ac roedd yn gweithio tuag at ddod o hyd i lety ei hun i ganiatáu iddi symud i well amgylchedd, llai negyddol.   Roedd Anna yn hynod nerfus am wirfoddoli ond drwy’r gefnogaeth gan y Ganolfan i Fenywod a mi, roedd wedi ennill llawer o hyder ac roedd yn hapus yn ateb galwadau ffôn a’r drws i ymwelwyr newydd yn ystod ei sifftiau. Oherwydd bod Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled Anna yn cyfyngu ar ei gallu i ddod o hyd i waith am dâl roeddem yn canolbwyntio ar ddatblygu ei sgiliau a’i phrofiad.   Roedd Anna yn wirfoddolwr rheolaidd gyda’r Ganolfan i Fenywod a hefyd roedd wedi dechrau gwirfoddoli yn yr RSPCA lleol.   Roedd y cam enfawr hwn yn rhoi cymaint o hyder i Anna ac roedd yn dechrau cymryd rheolaeth o’i sefyllfa ei hun.   Dechreuodd chwilio am dŷ, ymweld ag asiantwyr tai a hefyd gweithio gyda’r adran dai i sicrhau llety.  Drwy fod yn benderfynol a dyfalbarhau, llwyddodd Anna i sicrhau’r cyllid ar gyfer blaendal i gael fflat ei hun, gan ganiatáu iddi symud allan o gartref ei rhieni oedd wedi dechrau effeithio ar ei hiechyd meddwl. 

Treuliodd Anna 6 mis gyda’r Ganolfan i Fenywod cyn i ni ddod o hyd i gyfle Dechrau Gweithio fel Derbynnydd dan Hyfforddiant di-dâl yn Nhŷ Russell. Roedd hwn yn gyfle gwych i Anna ennill mwy o sgiliau ac adeiladu ar yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu eisoes.  Gwnaethom ymgeisio ac roedd Anna yn llwyddiannus yn y cam cyn-sgrinio a llwyddodd i gael cyfweliad.  Cwblhaodd Anna y broses recriwtio a llwyddodd i gael y swydd! Roedd ei dyletswyddau’n cynnwys gweithio gyda’r adran digartref a hefyd gwasanaethau cymdeithasol.  Cyfeirio’r cyhoedd pan fyddant yn mynd i mewn i’r adeilad ac weithiau delio gyda sefyllfaoedd anodd.  Mae’n gyffrous iawn i ddechrau ac ennill mwy o wybodaeth a sgiliau.   Mae Anna eisiau gweithio gynted ag y bydd yn gallu gyda dyddiad terfynu ei Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled felly bydd hyn yn cynnig sgiliau ardderchog ar gyfer ei CV a geirda gwych hefyd.   Yn ystod yr un wythnos â sicrhau’r lleoliad roedd hefyd wedi sicrhau llety ei hun ac roedd yn gobeithio symud cyn y Nadolig.  Mae Anna wedi dod yn bell ers inni ddechrau gweithio gyda’n gilydd ac mae ei hyder yn ei hun a’i hannibyniaeth wedi tyfu’n sylweddol.