Mynd i'r cynnwys

‘R’

Crynodeb

Cyfeiriwyd R at Sir Ddinbych yn Gweithio ar ôl bod yn ddi-waith am 6 mis. Roedd hi’n anodd ymgysylltu yn y dechrau, ond wrth i’r cyfarfodydd barhau, gwelwyd bod R yn cael trafferth gyda’i sgiliau rhifedd a llythrennedd, roedd yn byw mewn llety anaddas iddo ef a’i blentyn, ac roedd ei fywyd personol yn gymhleth iawn, a hynny’n ymwneud â materion teuluol ac ariannol. Gweithion ni gyda’n gilydd i oresgyn y rhwystrau hyn gyda chefnogaeth tîm estynedig Sir Ddinbych yn Gweithio a gwasanaethau allanol eraill. Yn ystod y camau cefnogaeth cynnar, canfu R gyflogaeth, ond oherwydd amgylchiadau, bu rhaid iddo adael y swydd. Penderfynon ni ar y pwynt hwn i edrych ymhellach i’w rwystrau amrywiol cyn dechrau chwilio am gyflogaeth unwaith eto. Ar ôl cyfnod o gefnogaeth 1-1 ddwys a chysylltu â’r Gwasanaethau Teuluol, sicrhaodd R gyflogaeth ystyrlon, llwyddodd i oresgyn ei rwystrau ariannol a symudodd i gartref newydd oedd yn llawer mwy addas iddo ef a’i deulu.

Cefndir / Beth yw …?

Roedd R wedi bod yn ddi-waith am bron i 6 mis adeg ymgysylltu. Dywedodd iddo geisio’n ddiflino i wneud ceisiadau am swyddi gan ddefnyddio’i CV a llenwi ceisiadau am swyddi a byth yn cael ymateb. Roedd R wedi cael trafferthion ar hyd ei addysg, roedd ganddo drafferthion ariannol ac roedd wedi symud o Kidderminster i Ogledd Cymru heb unrhyw gysylltiad lleol na theulu. Wedyn, bu iddo gyfarfod â mam ei blentyn ond gwahanon nhw 12 mis yn ddiweddarach a arweiniodd ato’n cysgu o soffa i soffa a bod dan fygythiad o fod yn ddigartref. Fe’i cefnogwyd gan NACRO i ddod o hyd i fflat un ystafell yr oedd yn byw ynddo pan wnaethon gyfarfod ag ef ond roedd yn daer am symud allan ohono gan ei fod yn rhannu’r gofal am ei ferch 18 mis oed ac yn cael trafferth gwresogi ei fflat un ystafell wely a fforddio bwyd.

Yr ymgysylltiad…

Cyfeiriwyd R atom gan y Ganolfan Byd Gwaith ym mis Rhagfyr 2018. Roedd hi’n anodd cysylltu ag ef yn y lle cyntaf, felly gadewais neges iddo’n ei wahodd i ddod draw i’n Clwb Swyddi. Mynychodd R, gan ddatgan iddo gael ei gynghori gan y Ganolfan Waith i ddod i’n gweld ni mewn perthynas â’i CV. Trwy sgwrsio, tynnwyd sylw at fylchau yn addysg a sgiliau R, yn enwedig ei drafferthion gyda sgiliau llythrennedd ac iaith. Yn ogystal, datgelodd R ei sefyllfa ariannol, gan esbonio ei fod yn teimlo’n rhwystredig ac yn methu symud, felly aethom at SARTH gyda’n gilydd i’w gynorthwyo gyda’i sefyllfa. Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrtho y byddai’n cael ei roi ar y rhestr aros am dai a allai gymryd hyd at 2 flynedd iddo gael ei letya. Siaradodd R hefyd gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn ein Clwb Swyddi a threfnwyd parsel bwyd o’r Kings Store iddo hefyd.

Yn ystod y cyfarfod cyntaf, roedd yn awyddus i wneud cais am swydd lanhau a newid ei CV. Cynigiwyd cyfweliad swydd i R ar ddiwedd yr wythnos honno, ond roedd yn bryderus am nad oedd ganddo ddillad am gyfweliad, felly trefnon ni i gwrdd ag ef ym Matalan i brynu dillad addas. Ffoniais i ef i weld sut oedd y cyfweliad wedi mynd a chafodd gynnig gwaith ar brawf y dydd Llun canlynol. Galwon ni gydag ef ar y dydd Llun ac roedd yn hapus iawn, roedd y prawf gwaith wedi mynd yn dda ac roedd wedi cael cynnig y swydd. Dim ond am 16 awr yr wythnos yr oedd am fod ond roedd yn fan cychwyn iddo. Roedd wedi dod ar yr adeg iawn gyda dim ond pythefnos tan y Nadolig; roedd yn teimlo’r pwysau i wneud y Nadolig yn arbennig i’w ferch. Yn anffodus, pan wnaethom gyfarfod eto yn y Flwyddyn Newydd, roedd R wedi cwympo allan o’i swydd ac roedd yn dal i fod yn daer eisiau symud allan o’i fflat un ystafell a dywedodd ei fod yn rhy gyfyng iddo ef a’i ferch.

Yn dilyn hyn, lluniwyd cynllun gweithredu i dargedu ei rwystrau’n araf a gwneud camau tuag at ei ddilyniant. Fe’i cyfeiriwyd at Talking Points a roddodd wybodaeth iddo am gyfleoedd cymdeithasol iddo ef ei hun ac iddo ef fel rhiant. Trafodwyd hefyd fanteision gwirfoddoli a lleoliadau profiad gwaith. Cawsom gyfarfod gyda’n gilydd a gyda menter gymdeithasol leol a threfnon ni iddo fynychu ei ddiwrnod cyntaf o wirfoddoli’r wythnos ganlynol. Gwnaethom hefyd gysylltu â NACRO i weld a allen nhw gefnogi R eto gyda’i lety. Gwahoddon nhw R yn ôl i’w gweld ac awgrymwyd edrych ar dai rhent preifat ac efallai gallen nhw helpu gyda bond am y blaendal. Wedyn, cysylltodd R gyda’i landlord i weld a oedd ganddynt unrhyw eiddo ychwanegol ar gael. Cynigiwyd fflat un ystafell wely iddo am rent is pe byddai’n ei addurno ei hun. Derbyniodd R y cynnig ac roedd yn amlwg yn fwy calonogol o ran y rhagolygon ar ei gyfer ef a dyfodol ei ferch. Fodd bynnag roedd R yn parhau i boeni ynghylch fforddio’r rhent a chost addurno felly gwnaethom gais i DAF a Buttle UK i’w helpu gyda’i gostau.

Ar y pwynt hwn ymlaen, gweithiodd yn agos gyda’n Swyddog Ymgysylltiad Cyflogaeth i gefnogi R i ymarfer a datblygu ei sgiliau cyfweld. Nid oedd yn llwyddiannus am y swydd gyntaf, ond roedd yn gyfle i drafod yr hyn oedd wedi gweithio yn y cyfweliad a sut roedd yn dod drosodd. Daeth cyfleoedd pellach ar gael hefyd gydag Iceland a McDonalds, felly gwnaethom gais am y ddwy swydd. Roedd R yn llwyddiannus gyda McDonalds a chynigiwyd swydd barhaol amser llawn iddo.

Arfer Da a Rannwyd / Gwersi a Ddysgwyd / Canlyniadau

Ers hynny, mae R wedi cysylltu i ddweud ei fod yn wirioneddol mwynhau ei rôl newydd, a dyma’r hapusaf iddo fod ers amser hir. Mae ymwneud R ar hyd y prosiect wedi dangos pa mor ymroddgar a phenderfynol ydoedd i newid ei sefyllfa er gwell. Roedd achos R yn gymhleth iawn o’r cyfarfod cyntaf, gyda llawer o ymyrraeth gan y gwasanaethau allanol i ddarparu cefnogaeth iddo. Mae’r gefnogaeth y mae R wedi’i derbyn wedi’i alluogi i sicrhau cartref mwy addas ar gyfer ei ferch, adeiladu ar ei set sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth ystyrlon i’w helpu i gadw ei fywyd ar y trywydd iawn.