Mynd i'r cynnwys

‘A’

Fe arferai A weithio fel cogydd, ond oherwydd amgylchiadau, nid yw wedi gweithio am y 3 blynedd diwethaf. Mae A yn gyfranogwr brwd o Gymunedau am Waith, ac ar hyn o bryd mae’n cysgu ar soffas pobl eraill felly does ganddo ddim sefydlogrwydd yn ei fywyd. Mae gan A gyflwr Asperger’s (wedi cael diagnosis) a dyslecsia ac ADD (heb gael diagnosis). Mae A yn pryderu’n ddifrifol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd newydd a chwrdd â phobl newydd. Cafodd A ei atgyfeirio gan ei swyddog prawf i geisio helpu A i gymryd y camau nesaf ymlaen. Mae A wedi derbyn cefnogaeth a mentora 1-i-1 i’w helpu gyda’r prif rwystrau, sef sefydlogrwydd a hyder. Mae wedi defnyddio The Wallich a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych sydd wedi galluogi iddo sortio ei fudd-daliadau a mynd i’r afael â’i ddigartrefedd. Fe fydd yn parhau i gael cefnogaeth fentora i alluogi A i gyflawni ei nod o weithio fel cogydd eto.

Derbyniwyd atgyfeiriad A gan ei swyddog prawf (Annalise) ar ôl i A fod ar gyfnod prawf am drosedd roedd wedi’i gyflawni. Roedd A yn cwrdd ag Annalise ddwywaith y mis ac ni fyddai’n dweud wrth Annalise lle’r oedd o’n byw fel na fyddai’n colli rhywfaint o’i chefnogaeth.

Cyflwynwyd cais blaenorol am Gefnogi Pobl ym mis Tachwedd 2017 ond ni ymatebodd A i ymgais ddiwethaf y tîm digartrefedd i gysylltu ag o ym mis Ionawr 2018. Mae A wedi cael anawsterau yn ceisio sortio ei Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl iddo ddod i ben, ac mae wedi bod yn ceisio sortio ei Daliad Annibyniaeth Bersonol i sicrhau nad yw’n dod i ben. Trwy siarad gydag Annalise daeth hi’n amlwg bod A yn deall beth roedd angen ei wneud i sortio’r sefyllfa dai a budd-daliadau, serch hynny roedd ei orbryder yn atal y ddau beth rhag symud ymlaen. Roedd A yn gallu dweud ei fod wedi bod yn chwilio am dai ac yn ymweld â’r gwasanaethau, serch hynny roedd yna bob amser reswm pam na allent ei helpu. Oherwydd y pryderu a’r Asperger, roedd A yn cael anhawster ymgysylltu a chymell ei hun i’w helpu i symud ymlaen.

I ddechrau fe wnaethom drefnu bod Annalise yn trefnu cyfarfod gyda ni y tro nesaf y byddai’n gweld A gan na fyddai’n ateb galwadau ffôn gan rifau nad oedd yn ei adnabod. Fe ddaeth A i’r apwyntiad cychwynnol ac roedd yn orbryderus iawn. Roeddwn i’n gallu gweld bod A yn nerfus iawn yn yr apwyntiad ac yn cynhyrfu. Ond fe wnaethom gymryd ein hamser a wnes i ddim ei wthio’n rhy bell yn y cyfarfod cyntaf, ond fe wnaethom siarad am ei gefndir a’i amgylchiadau gan roi amser i A siarad a magu hyder wrth siarad.

Ar ôl ein cyfarfodydd cychwynnol daeth yn amlwg mai sefydlogrwydd a hyder oedd y prif rwystrau i A symud ymlaen. Fel y nodwyd yn yr asesiad Seren Waith, mae A angen cymorth a mentora dwys i’w helpu i ddod o hyd i gartref ac i gael budd-daliadau.

Cafodd A ei annog i ymgysylltu gyda Chyngor ar Bopeth i gael help a chymorth i fynd i’r afael â materion gyda’i Daliad Annibyniaeth Bersonol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Hyfforddiant a chymorth i fagu hyder: Ar y cychwyn doedd A ddim yn siŵr am wneud unrhyw beth oherwydd doedd ganddo ddim hyder, serch hynny,

trwy’r broses fentora mae A wedi bod yn fwy agored i hyfforddiant er mwyn magu hyder i fynd nôl i’r gwaith yn y dyfodol.

Cefnogaeth fentora i alluogi A ymgysylltu gyda phrosiectau sydd yn gallu ei helpu a’i gefnogi gyda thai: Roedd atgyfeiriad eisoes wedi cael ei wneud ar ran A i Cefnogi Pobl ond ni ymgysylltodd A. Dywedodd A bod neb wedi ceisio ei ffonio. Gofynnais am ganiatâd ganddo i anfon atgyfeiriad newydd ac fe gefais gefnogaeth gan Annalise i wneud hynny hefyd. Dros yr wythnosau nesaf fe wnes i bwysleisio pa mor bwysig oedd hi i ateb galwadau ffôn, ac os nad oedd o eisiau ateb y galwadau ei fod yn dod â’r rhifau i’n cyfarfod, ac fe allwn i eu ffonio nôl ar ei ran i sicrhau na fyddem yn eu methu eto.  Serch hynny, ar ôl ychydig wythnosau fe gysylltais gyda Chefnogi Pobl ac roedd atgyfeiriad A wedi cael ei anfon at y prosiect anghywir. Fe wnes i barhau i geisio cysylltu â nhw nes i A ddweud wrtha i fod The Wallich wedi cysylltu ag o a’i fod wedi mynychu cyfarfod gyda nhw.  Ers hynny mae A wedi mynychu pob un o gyfarfodydd The Wallich ac mae wedi cael cyfarfodydd gydag adran tai’r cyngor.

Cyflawniad mwyaf arwyddocaol A ydi ei hyder, mae’n mynychu pob cyfarfod ar amser ac mae’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda mi. Mae o dal i bryderu pan fydd yn cyfarfod pobl newydd ond mae’n fodlon gwthio ei hun i ymgysylltu mewn prosiectau newydd a phobl sydd yn gallu ei helpu i’w gefnogi symud ymlaen.

Mae’r astudiaeth achos hwn yn atgyfnerthu gallu Cymunedau am Waith i ymgysylltu a mentora pobl ifanc a fyddai fel arall yn methu’r gefnogaeth a’r arweiniad y gallant elwa ohono. Mae’n dangos y gwaith rhwng asiantaethau a rhannu cefnogaeth er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y person ifanc. Mae’r mentor wedi cynorthwyo A i fynychu cyfarfodydd gyda Chyngor ar Bopeth, wedi cynorthwyo i wneud atgyfeiriadau Cefnogi Pobl a gwirio cynnydd yr atgyfeiriad nes ei fod yn cyrraedd prosiect sydd yn gallu helpu a sicrhau nad yw’n cael ei golli yn y system. Cynigiodd y mentor gefnogaeth ac arweiniad i A wrth gwrdd â phobl newydd ac fe gynigiodd fynychu The Wallich gydag o, serch hynny, penderfynodd A ei fod yn gallu cwrdd â The Wallich ar ei ben ei hun.

Rydym wedi cyrraedd y pwynt yn ein sesiynau lle mae A yn penderfynu dros ei hun beth yr hoffai wneud nesaf. Rydym yn edrych mewn i gyrsiau hyfforddi ac efallai y posibilrwydd o wneud rhywfaint o waith gwirfoddol.  Gan fod ei sefydlogrwydd o ran cartref yn y broses o gael ei ddatrys a bod ei fudd-daliadau wedi’u sortio, mae’n teimlo mai dyma’r cam nesaf iddo.

O ran yr hyn mae’r mentor wedi ei ddysgu: Dwi wedi dod i gysylltiad gydag amrywiaeth eang o bobl a gwasanaethau na fyddwn i wedi dod i gyswllt â nhw fel arall. Dwi’n deall nad yw pob person ifanc yr un fath ac mae gan bob un anghenion unigol ac mae yna wasanaethau ar gael sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar eu cyfer nhw. Mae wedi bod yn brofiad dysgu gwych fel mentor, ond hefyd mae A bellach wedi cyrraedd y pwynt i symud gam ymlaen. Mae hyn yn gyflawniad gwych i A a thrwy weithio gydag o dwi’n gallu gweld sut mae wedi newid a datblygu mewn ychydig fisoedd. Nod nesaf A ydi mynychu cwrs Hylendid Bwyd a chwrs Iechyd a Diogelwch yn y Rhyl. Felly, fe fyddwn ni’n gweithio ar fagu ei hyder eto ac yn gweithio tuag at y cwrs, tra’n ei gefnogi gyda’r broses o symud o fod yn ddigartref mewn i dŷ.