Mynd i'r cynnwys

Astudiaeth Achos – Mrs. X

Tri mis ar ôl iddi briodi’r gŵr y mae wedi’i garu fwyaf erioed, cafodd bywyd X ei droi ar ei ben ei lawr.

Roedd gan X a’i gŵr Y fywyd oedd yn llawn cyfleoedd. Yn byw yn Azores, roedd Y yn gweithio fel cynorthwyydd meddygol mewn ysbyty ac roedd X yn was sifil gyda’r Swyddfa Gartref.

Roedd ganddyn nhw dŷ a char eu hunain ac yn mwynhau bywyd gyda’i gilydd. Ond roedd gan ffawd syniadau eraill. Yn ei waith dyma Y yn dal haint gan glaf yn yr ysbyty.

Dyma ei iechyd yn gwaethygu gyda’r cwpl yn symud i ddinas arfordirol Porto ym Mhortiwgal i gael gwell mynediad i driniaeth cyn rhoi cynnig ar glinig yn Sbaen. Yna, cafodd Y ddiagnosis fod ganddo encephalitis, cyflwr prin sydd yn achosi llid ar yr ymennydd.

Dros y blynyddoedd nesaf ac ar drywydd i ddod o hyd i help i’w gŵr dyma X yn talu am driniaeth breifat yn Llundain lle byddai’r arbenigwyr yn ceisio trin Y.

Bu’n rhaid i X roi’r gorau i’w swydd i edrych ar ôl ei gŵr gan fod y cyflwr wedi’i adael o gyda chymhwysedd gwybyddol unigolyn yn ei arddegau. Dychwelodd y cwpl ffyddlon i Porto gyda X yn gwneud swyddi eraill i helpu gynnal y cwpl. Ond roedd hi’n ei chael yn anodd cwrdd â galw swyddi yn seiliedig ar gomisiwn yn ogystal â gofalu am ei gŵr a byw ar incwm bychan felly dyma X yn dechrau chwilio am waith yn y DU lle roedd ganddynt deulu.

Cymerodd swydd gyda darparwr gofal yn Norwich cyn i’r cwmni ei symud hi i’r Rhyl. A’r ddau wedi ymgynefino yn y dref dyma’r cwmni yn penderfynu symud X i Gasnewydd ac unwaith eto roedd hi’n ddi-waith a’r cwpl gyda nunlle i fyw.

Yn teimlo’n hollol anobeithiol am bethau fe ddechreuodd X waith tymhorol yn glanhau carafanau ac roedd y cwpl yn ymdrechu i gynnal eu hunain. Cynghorodd ffrindiau X iddi gysylltu â Chanolfan Cyngor ar Bopeth, ac felly o’r fan hynny dyma pethau yn dechrau newid.

Cafodd X ei rhoi mewn cysylltiad â Sir Ddinbych yn Gweithio a phenodwyd Rachael Smith fel ei mentor.

 “Roedd hi’n amlwg fod gan X lawer o sgiliau a phrofiad. Roedd hi wedi gweithio i Lywodraeth Azores a gyda llawer i’w gynnig i gyflogwr. Dyma ni’n dechrau cyfieithu ac ailysgrifennu ei CV, gan helpu X i ddod o hyd ac i wneud ceisiadau am swyddi. Ar un pwynt cafodd X gynnig saith swydd i ddewis rhyngddyn nhw a dyma hi’n derbyn swydd fel cynorthwyydd cefnogi ymddygiad gyda sefydliad yn y Rhyl,” meddai Rachael.

Roedd gan fywyd, fodd bynnag, syniadau eraill. Cyn i X ddechrau hyfforddiant ar gyfer y swydd dyma hi’n darganfod lwmp yn ei gwddf. Dyma meddygon yn tynnu’r lwmp cyn i’r doctoriaid dorri’r newyddion drwg fod y tiwmor yn gancr, a bod cancr wedi lledaenu i’w thyroid. Mae X yn wynebu rownd o driniaeth ïodin radio. Mae hyn yn golygu bod swydd X ar stop nes ei bod wedi cael ei thriniaeth a bod mwy o wybodaeth i’w gael ar ei chyflwr.

Ychwanegodd Rachael: “Roedden ni’n meddwl ein bod wedi dod o hyd i’r swydd berffaith i X a rŵan hyn. Yn ffodus , diolch i’r cyflogwr mae wedi cytuno i gadw’r cyfle ar agor iddi a mi wnes i fynd i egluro ei sefyllfa hi iddyn nhw. Ond nid yw ein cefnogaeth iddi yn dod i ben gyda gwaith yn unig. Rŵan mae X yn wynebu llawdriniaeth ac mae hi ac Y angen ein cefnogaeth mewn ffyrdd gwahanol gan fod yna ddim incwm rheolaidd yn dod i mewn.

 “Rydym wedi trefnu pecynnau banc bwyd iddyn nhw fel bod X yn gallu sicrhau fod gan Y fwyd yn ystod ei hymweliad nesaf â’r ysbyty. Rydym wedi helpu i gwrdd â chostau nwy a thrydan, wedi helpu X gyda gwneud  apwyntiadau doctor a chwrdd â’r gost o docyn bws fel ei bod yn gallu teithio o gwmpas ac i’r ysbyty. 

 “Rydym hefyd wedi ei rhoi mewn cysylltiad â sefydliad cymorth cancr MacMillan ac wedi helpu gyda chais am grant ar gyfer gwely ychwanegol i X gan na fydd hi’n gallu rhannu gwely gyda Y nes fod effaith y driniaeth, sydd wedi ei gadael yn ymbelydrol am gyfnod, wedi gwisgo i ffwrdd.

 “Efallai bod rhai pobl yn dweud mai nid achosion cyflogaeth ydi’r rhain. Efallai nad dyna ydyn nhw’n uniongyrchol ond mae nhw’n achosion dynol. Drwy barhau i gefnogi X y gobaith yw bydd hi’n gallu canolbwyntio ar wella a magu cryfder heb straen neu bryder, fel ei bod ymhen amser yn gallu dechrau’r swydd yr oedd hi’n edrych ymlaen gymaint amdano.”

Yn y cyfamser mae X yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Cyngor ar Bopeth y Rhyl yn helpu eraill sydd yn gweld eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn. Rydym wedi gwario ein harian a gynilwyd yn helpu fy ngŵr ac wedi gorfod dychwelyd ein cartref a’n car i’r banc ym Mhortiwgal. Mae bob dim oedd gennym bellach mewn garej ffrind. Nid fy mwriad oedd dod i’r wlad hon i dderbyn budd-daliadau a help. Roeddwn i eisiau gweithio, talu fy nhrethi a gofalu am fy ngŵr. Dwi ddim yn hoffi derbyn help, felly dwi di gweld yr holl beth yn anodd, ond fy ngŵr yw fy arwr i – mae o wedi mynd drwy gymaint a da ni’n dal i fynd.

 “Dwi mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi’i gael gan Sir Ddinbych yn Gweithio a Rachael. Mae llawenydd yn fy nghalon o wybod fy mod yn cyfri. Roeddwn i mor ddigalon a fflat am gyfnod mor hir. Roeddwn ar goll go iawn ac yn cael trafferth llonyddu fy hun. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi fy helpu i ailafael mewn pethau fel fy mod yn gallu ailgydio mewn bywyd eto.

 “Nid y gefnogaeth yn unig sydd wedi gwneud gwahaniaeth ond y cyfeillgarwch sydd wedi’i gynnig i mi hefyd.,Y nod cyffredinol yw fy nghael yn gweithio, mae gennyf swydd yn aros amdanaf, dwi’n gobeithio y byddai’n gallu bod mewn lle i ddechrau arni yn fuan.”