Diwrnod Bwyd Y Byd
Dydd Mercher 16 Hydref 2019
Fel rhan o’r ffocws ar ddyddiau ymwybyddiaeth
cenedlaethol yn y DU, rhoddwyd rhoddion gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio i godi
ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Bwyd y Byd a gynhaliwyd ddydd Mercher, 16 Hydref 2019.
Diben Diwrnod Bwyd y Byd yw codi ymwybyddiaeth o sut mae’n planed sy’n
newid yn effeithio ar gynhyrchu a dosbarthu bwyd, gyda’r nod o arwain at
ddatblygu ‘Cenhedlaeth Dim Newyn’ yn y pen draw.
Penderfynwyd canolbwyntio ar y diwrnod arbennig hwn gan ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth Sir Ddinbych yn Gweithio i drechu tlodi o fewn Sir Ddinbych, sef nod pob un o’n prosiectau Mae pob prosiect wedi cefnogi cyfranogwr gyda pharsel bwyd ar ryw bwynt yn ystod eu siwrnai gyda ni, felly roeddem yn meddwl y byddai’n syniad da i roi bwyd i’r banc bwyd lleol.
Llyfrgell Y Rhyl yw man gollwng/casglu ar gyfer Banc Bwyd y Rhyl ar Stryd Sussex. Mae banciau bwyd hefyd yn darparu pethau ymolchi a chynnyrch hylendid i’r sawl sydd eu hangen fwyaf. “Ynghyd â’r parsel bwyd safonol, rydym yn ceisio darparu’r eitemau hanfodol canlynol nad ydynt yn eitemau bwyd i oedolion a phlant mewn argyfwng, i’w helpu i gynnal urddas a theimlo’n ddynol unwaith eto.”
Roedd staff wedi rhoi eitemau bwyd fel grawnfwyd, llaeth UHT, cig tun a llysiau yn ogystal â reis ac eitemau pasta. Rhoddwyd cewynnau hefyd, ynghyd â chynnyrch hylendid a phethau ymolchi
Am fwy o wybodaeth ar Ddiwrnod Bwyd y Byd ewch i’r wefan isod:
http://www.fao.org/world-food-dayDiwrnod Gwên y Byd
Dydd Gwener, 4 Hydref 2019
Ymunodd Sir Ddinbych yn Gweithio â dathliad Diwrnod Gwên y Byd ddydd Gwener 4 Hydref 2019 a’r thema ar gyfer 2019 oedd “Caredigrwydd”. Anogwyd cydweithwyr ar draws y tîm i gynnig caredigrwydd drwy gydol y dydd, pa mor bynnag fach, i ledaenu llawenydd a hapusrwydd i bawb o’u cwmpas.
Roedd yna stondin yn y fynedfa yn llyfrgell y Rhyl hefyd yn y bore i ddinasyddion siarad gyda staff am eu hwythnos a dweud wrthynt beth oedd wedi gwneud iddynt wenu’r diwrnod hwnnw. Yn gyfnewid am hyn, cafodd y dinasyddion gynnig pecyn gofal iechyd deintyddol am ddim oedd yn cynnwys past dannedd, brwsys dannedd, edau ddannedd a golchwr ceg i hybu hylendid deintyddol a gwên iach ac roedd y rhai dros ben wedi eu cadw ar gyfer y banc bwyd lleol yn y Rhyl.
Roedd y bore wedi profi’n boblogaidd gyda llawer o bobl yn gadael nodiadau calonnog ac roedd yn gyfle da i gael sgwrs ymlaciol a chyfeillgar gyda dinasyddion o ardal y Rhyl, yn ogystal â rhoi cyfle i eraill chwerthin.
Roedd dinasyddion oedd yn mynd heibio’r llyfrgell yn gadael nodiadau ar y poster o gamau bach o greadigrwydd yr oeddent wedi eu profi drwy gydol yr wythnos a gofynnwyd “Beth sydd wedi gwneud i chi wenu heddiw?”.
Mae rhai o’n hoff enghreifftiau o Garedigrwydd gan y cyhoedd wedi eu hamlygu isod:
“Y baned gyntaf yn y bore”
“Mynd am goffi gyda fy ffrind”
“Swydd newydd!”
“Wnaeth fy ngŵr anfon neges ataf bore yma yn dweud ei fod yn fy ngharu”
“Fy nghi”
Am fwy o wybodaeth ar Ddiwrnod Gwên y Byd, gallwch ymweld â’r wefan hon:
https://www.worldsmileday.com/index.php/article-index/item/373-about-world-smile-day