Mynd i'r cynnwys

Cwrs yn hwb i hyder

Roedd dau gyfranogwr yn ddihyder iawn pan oeddent yn cychwyn gydag ADTRAC, sy’n rhan o Sir Ddinbych yn Gweithio. Defnyddiodd Swyddogion Allgymorth ac Ymgysylltu y System Bwrcasu Ddeinamig i gael gafael ar gwrs hyder yn yr awyr agored. Y cynigwyr buddugol oedd Canfod Cymru gan eu bod yn cynnig ymagwedd hyblyg i weddu i anghenion y rhai oedd yn cymryd rhan. Mae arweinwyr sesiynau Canfod Cymru yn brofiadol o ran darparu technegau hyfforddiant llai arferol i unigolion a grwpiau sydd â rhwystrau rhag cynnydd, fel diffyg hyder, pryder, ymddygiad heriol a phroblemau iechyd sy’n eu cyfyngu.

Roedd y Cwrs Hyder yn cynnwys 5 sesiwn ac yn cynnwys yr isod:

  •  Taith geoguddio drwy’r goedwig – ‘helfa drysor’ fodern yn defnyddio technoleg GPS.            
  • Gwylltgrefft – coginio ar dân, creu tân â fflint a dur / bwa a dril, fforio, saethyddiaeth, clymau a chrefftau pren glas.          
  • Rheoli coetir – coedlannu traddodiadol, gwaith helyg, adeiladu clwyd helyg.      
  • Rheoli coetir – gwaith helyg, adeiladu clwyd helyg a bocsys adar ac ystlumod.  
  • Plannu coed – gwirfoddoli ar brosiect y Goedwig Hir

Roedd y gweithgareddau hyn i gyd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau yn yr ardal, fel Natur er Budd Iechyd, Coed y Morfa a Chastell Gwrych. Fe ymunodd yr unigolion hefyd gyda grŵp bach o wirfoddolwyr sydd wedi datblygu a chynnal safle Porth y Morfa.

Roedd y cyfuniad o wahanol leoliadau a gweithgareddau’n galluogi’r unigolion i ddysgu sgiliau newydd mewn modd corfforol, gan grwydro’r gymuned leol. Bu iddynt gyfarfod â phobl newydd, a oedd yn gyfle iddynt wella eu sgiliau cyfathrebu a datblygu eu sgiliau cymdeithasol.

Roedd agwedd wirfoddoli’r cwrs yn cynorthwyo’r cyfranogwyr i ddatblygu ymdeimlad o bwrpas a mwy o hunanhyder. Roedd y ddau’n medru camu’n ôl a gweld eu bod wedi cyflawni rhywbeth gweledol a buddiol, i’r gymuned, i bobl eraill ac i’r amgylchedd, ac roedd hynny’n rhoi ymdeimlad o gyflawni iddynt. Mae hyn i gyd wedi annog y cyfranogwyr i fynd ymlaen i addysg bellach a/neu gyflogaeth.

Roedd agwedd wirfoddoli’r cwrs yn cynorthwyo’r cyfranogwyr i ddatblygu ymdeimlad o bwrpas a mwy o hunanhyder. Roedd y ddau’n medru camu’n ôl a gweld eu bod wedi cyflawni rhywbeth gweledol a buddiol, i’r gymuned, i bobl eraill ac i’r amgylchedd, ac roedd hynny’n rhoi ymdeimlad o gyflawni iddynt. Mae hyn i gyd wedi annog y cyfranogwyr i fynd ymlaen i addysg bellach a/neu gyflogaeth.

Ar ben hyn, fe ddysgodd y cyfranogwyr amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys; gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau a sgiliau mapiau. Roedd y ddau’n teimlo bod y cwrs hyder yn eu hannog nhw i ddweud eu dweud ac roeddent yn ei chael yn haws gwneud ffrindiau. Dywedodd arweinydd y cwrs hyder ei fod yn gallu gweld datblygiad cadarnhaol yn y ddau yn ystod y 5 sesiwn. Roedd eu hyder yn tyfu o sesiwn i sesiwn.

Yn gyffredinol, roedd y cwrs hyder yn hyrwyddo’r Pum Ffordd tuag at Les:

  • Cysylltu – Datblygu sgiliau cyfathrebu a hyder trwy gyfarfod â phobl newydd, gwneud ffrindiau a gweithio fel tîm 
  • Bod yn fywiog – Gweithio yn yr awyr agored, cerdded, gweithgareddau lefel gymharol mewn amgylchedd diogel, heb lawer o risg
  • Bod yn sylwgar – Ymweld â lleoedd newydd, bod yn yr awyr agored a bod yn chwilfrydig
  • Dysgu – Sgiliau gwaith a gosod nodau i wella hunanhyder
  • Rhoi – Gwirfoddoli a helpu eraill i wella eu hunan-werth

Bydd Sir Ddinbych yn gweithio’n parhau i gefnogi unigolion heb lawer o hyder i gyflawni eu nodau a’u hamcanion!