Mynd i'r cynnwys

Nodau ar gyfer Cymunedau Sir Ddinbych

A picture showing the welsh word Nodau meaning goals

Mae Strategaeth Gweithio’n Sir Ddinbych yn nodi model rhesymeg newid lle bo mewnbynnau, allbynnau, canlyniadau ac effaith ar lefelau cymunedol yn cael eu hystyried. 

Mae unrhyw flog sy’n cael ei nodi fel ‘effaith’ yn ymwneud â’n huchelgais mewn perthynas â’r gymuned gyfan.  Dyma’r effaith yr ydym yn gobeithio ei gael ar lefel poblogaeth. Ein nodau yw:

Mae nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar  y rhain, a dim ond elfen fechan o’r cyfanrwydd mwy yw ein gweithgarwch ni.  Mewn achosion o’r fath mae cyfatebiaeth y bwced yn ddefnyddiol.  Os tybiwn mai ein nod yw sicrhau bod ein bwced yn llawn dŵr.  Efallai y bydd gennym y gallu i lenwi’r bwced gan dywallt dŵr newydd mewn jwg, ond efallai y bydd twll yn y bwced yn golygu bod rhywfaint o’r dŵr yn gollwng.  Os nad ydym yn rheoli’r twll, bydd ein gallu i gadw’r bwced yn llawn yn cael ei gyfyngu.

Yn ein hachos ni, rydym yn gweithredu i wella’r cyflenwad llafur, gan gynorthwyo pobl i fod yn fwy atyniadol i’r farchnad lafur.  Ond nid ydym yn gallu rheoli’r economi ehangach a bydd y galw am lafur yn cael cymaint o effaith ar ein llwyddiant yn y pendraw a’n camau ein hunain i wella’r cyflenwad.

Rydym wedi nodi tair rheol ar gyfer gosod targedau:

  1. Rydym yn dymuno gweld gwelliant o’n sefyllfa waelodlin ac mae hyn yn golygu gweld naill ai cynnydd neu ostyngiad yn y ffactor dan sylw.
  2. Rydym yn dymuno gweld gwelliant yn ein perfformiad cymharol o gymharu â lefelau perfformiad cenedlaethol Cymru a’r DU.
  3. Rydym yn dymuno gweld gwelliant ym mherfformiad ein cymdogaethau sy’n perfformio waethaf o gymharu â’n cymdogaethau sy’n perfformio orau.