Mynd i'r cynnwys

Nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra

Y dangosydd allweddol sydd gennym i ddangos lefelau diweithdra yw nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Hoffem weld:

  • y gyfradd yn gostwng o lefel Ebrill 2018
  • cyfradd Sir Ddinbych yn is na chyfradd Cymru a chyfradd y DU
  • bod y cymdogaethau yn y sefyllfa waethaf yn dal i fyny gyda’r cymdogaethau sy’n gwneud yn well yn Sir Ddinbych

Perfformiad cyfredol

Mae diweithdra yn flaenoriaeth ar gyfer gwella ar hyn o bryd (dyna’r rheswm dros fuddsoddi mewn Gweithio yn Sir Ddinbych). Mae cyfradd Sir Ddinbych yn uwch na chyfraddau Cymru a’r DU a bu cynnydd ers diwedd 2017.

Un o’r ffactorau allanol sy’n effeithio ar hyn yw cyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae pobl a oedd yn hawlio budd-daliadau yn flaenorol nad oedd gofyniad iddynt chwilio am waith yn cael eu trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol ac mae gofyn iddynt chwilio am waith. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu cynnwys yn y ffigyrau diweithdra, ac nid oeddent cyn hyn.

Yr ail ffactor allweddol yw’r economi ei hunan. Credir bod ansicrwydd, yn ymwneud â phroses Brexit, wedi arwain at y cynnydd mewn diweithdra yn Sir Ddinbych ac yng Nghymru a’r DU ehangach hefyd.