Ydych chi eisiau Swydd?
Ydych chi angen Swydd?
Ddim yn siŵr lle i ddechrau?
Ein gweledigaeth yw lleihau tlodi drwy alluogi pobl i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau sy’n eu cefnogi ar eu taith i gael gwaith, ac i gynnal eu sefyllfa neu ddatblygu pan maent mewn gwaith.
Mae Strategaeth Sir Ddinbych yn Gweithio’n nodi gweledigaeth Cyngor Sir Ddinbych i drechu tlodi drwy gyflogaeth. Hyd yma, mae hyn wedi cynnwys prosiectau wedi’u hariannu’n allanol sy’n cael eu cyflawni gan y Cyngor (ADTRAC, Cymunedau am Waith a Mwy, Gwaddol Cymunedau yn Gyntaf, KickStart) yn ogystal â phrosiectau mewnol fel ein cynllun Worksmart.